17 Rhag 2020

Gwenyn yn y gaeaf

Martin Davies

Nid yw’r gwenyn mêl yn gwneud yr un o’r ddau beth:

Ddiwedd yr haf, bydd y Frenhines yn dodwy wyau i gynhyrchu gwenyn gweithgar a fydd yn ei chynnal trwy gydol y gaeaf.

Bydd y gwenyn chwilota niferus oddi ar yr haf yn lleihau o ran nifer ac yn marw yn ystod yr hydref, gan adael niferoedd llawer is yn y nyth. Ganol haf, gall nifer y gwenyn mewn cwch gwenyn gynyddu hyd at 50-60 mil ac, yn y gaeaf, gall y nifer ostwng i 10-20 mil. Pan fydd y tymheredd yn disgyn, bydd y gwenyn gaeaf yn clystyru o amgylch y Frenhines gan ofalu amdani a’i chynnal trwy fisoedd y gaeaf, fel y gall barhau â’r nythfa i’r tymor nesaf. Gall Brenhines gwenyn mêl fyw am 2-5 mlynedd.

Yn ystod misoedd yr haf, gall gwenynen weithgar fyw hyd at chwe wythnos; mae mor brysur nes ei bod yn gweithio ei hun i farwolaeth, yn llythrennol. Mae gwenyn gaeaf yn arafu, a’u prif nod yw cynnal y Frenhines. Nid oes fawr ddim porthiant i’w gasglu, ac mae’r unig hediad yn ystod yr amser hwn yn bennaf ar gyfer glanhau pan fydd y tywydd yn ddigon cynnes i adael y cwch gwenyn. Mae’r gweithgarwch is hwn yn galluogi’r gwenyn hyn i fyw am hyd at chwe mis os bydd angen.

Os byddwch yn ymweld â’r Ardd Fotaneg yn ystod misoedd y gaeaf, galwch heibio i’r ardd wenynen. Ar ddiwrnod heulog braf, efallai y gwelwch rywfaint o weithgarwch wrth i’r gwenyn mêl fachu ar y cyfle i adael y cwch gwenyn am hediad glanhau neu i chwilio am borthiant gaeaf. Mae’n ymddangos bod ein gaeafau’n cynhesu, ac mae hyn yn arwain at wenyn sy’n fwy egnïol. Efallai bod hyn yn ymddangos yn gadarnhaol, ond mae’r holl weithgarwch yn arwain at y gwenyn yn defnyddio mwy o’u storfeydd gaeaf.

Bydd gwenynwyr yn cadw golwg agos ar lefel y storfeydd sy’n weddill yn y cychod gwenyn trwy eu codi. Mae hyn yn cymryd ychydig o ymarfer, ond os gwelwch y gwenynwr yn codi cwch gwenyn, mae hyn er mwyn cael syniad o’r pwysau. Bydd hyn yn dangos i’r gwenynwr profiadol faint o’u storfeydd sydd gan y gwenyn ar ôl.

Os yw’n ymddangos bod y cwch gwenyn yn rhy ysgafn, bydd y gwenynwr yn rhoi porthiant atodol o ffondant gwenyn iddo er mwyn sicrhau nad yw’r nythfa’n dioddef o newyn, oherwydd gall hyn fod yn un o’r rhesymau dros golli nythfeydd.

Rheswm arall dros golledion yw gwiddon Varroa. Os cawn aeaf mwyn gall y Frenhines barhau i ddodwy, a gall hyn arwain at widdon yn cronni yn y nythfa. Mae’n well gan y gwiddon gelloedd mag i fridio. Gweithgaredd arall y gallech weld y gwenynwyr yn ei wneud yn y wenynfa yw rhoi triniaeth i’r cychod gwenyn i ddifa’r gwiddon. Hyd yn oed os nad oes yna fag yn y nythfa, mae’r gwiddon yn glynu wrth y gwenyn sy’n oedolion ac yn bwydo arnynt, gan wanhau’r nythfa; felly, mae’n arfer da lleihau nifer y gwiddon gymaint â phosibl trwy roi triniaeth yn ystod y gaeaf.

Mae pob un o’r gwenynfeydd yn yr ardd yn cael ei fonitro trwy gydol misoedd y gaeaf i sicrhau bod gan y gwenyn y siawns orau o oroesi i’r gwanwyn yn hapus ac yn iach ac yn barod am dymor newydd.

Lynda Christie
11 Rhagfyr, 2020