Yn y DU mae gennym dros 270 rhywogaeth o wenyn (1 yw’r gwenyn mêl Ewropeaidd, 24 yw cacwn ac mae’r gweddill yn wenyn unigol). Mae cacwn a gwenyn mêl yn gymdeithasol felly maen nhw’n byw mewn cymunedau mawr o unigolion sy’n cael eu rheoli gan un fenyw ffrwythlon (y frenhines). Mae’r mwyafrif o’r gwenyn eraill, gan gynnwys gwenyn ddeildorrol a saerwenyn, yn wenyn unigol – sy’n golygu bod pob benyw yn ffrwythlon ac yn creu nyth ei hun. Felly, does dim gan nyth gwenyn unigol brenhines na gweithwyr. Serch hynny, mae yna eithriadau i’r rheol, oherwydd gall gwenyn yn y genws Lasioglossum a Halictus dangos ymddygiad cyntefig, gyda benywod an-atgenhedlol yn cynorthwyo menywod atgenhedlol. Mae gaeafgysgu yn amrywio rhwng rhywogaethau gwenyn, ond dyma gipolwg at gylch bywyd pob grŵp yn gyffredinol.
Cacwn
Ar ddiwedd yr haf/dechrau’r hydref, bydd brenhines sydd wedi cyplu yn bwydo’n ddwys ar baill a neithdar a’u storio fel braster. Yna, mae hi’n treulio’r gaeaf yn unig, o dan ddaear ac o dan bridd, yn defnyddio ei chronfa egni i oroesi cyn iddi ddeffro gan y tymheredd yn cynhesu yn y gwanwyn. Ar ôl iddi ddihuno o’i chwsg, bydd y frenhines yn bwydo ar neithdar a chwilio am safle addas i nythu a gwario’r flwyddyn. Gall cacwn nythu o dan y ddaear mewn hen dyllau neu uwchben y ddaear mewn hen dai adar, tyllau mewn coed neu wagleoedd mewn to.
Ar ôl dod o hyd i nyth addas, mae’r frenhines yn creu pêl o baill wedi ei wlychu â neithdar, ac yn gosod wyau wedi’u ffrwythloni arno. Mae hi hefyd yn creu pot wedi’i wneud o gwyr i lenwi gyda neithdar wedi chwydu (mêl) y mae hi’n bwyta wrth iddi ddeor ei wyau. Ar ôl sawl diwrnod, mae’r wyau’n troi yn larfa a gall y frenhines eu gadael er mwyn casglu paill a neithdar. Mae tymheredd y brwd yn disgyn gyda phob taith chwilota y mae’r frenhines yn ei gwneud, felly mae’n hanfodol bod y nyth yn agos at flodau gwerthfawr. Mae’n cymryd tua phythefnos i’r wyau ffrwythlon hyn i ddatblygu mewn i weithwyr (oedolion benywaidd). Mae’r frenhines ond yn cyflenwi bwyd ar gyfer y cyntaf neu’r ail epil, ar ôl hynny mae’r gweithwyr yn dechrau casglu bwyd i’r ifanc ac mae hi yn aros tu mewn i’r nythfa gan ddodwy wyau a gofalu am y larfa. Fel arfer, mae nythfa cacwn yn cynnwys tua 50-400 o weithwyr.
Yn hwyr yn yr haf, mae’r ‘pwynt newid’ yn cyrraedd ac mae’r frenhines yn dechrau gosod wyau sydd heb eu ffrwythloni sy’n troi mewn i wrywod, ffenomen arbenigol a welwyd mewn llawer o bryfed a elwir yn haplodiploidi. Mae cacwn gwrywaidd yn gadael y gytref cyn gynted ag y byddant yn ymddangos ac ni fyddant yn dychwelyd. Maent yn treulio eu hamser o gwmpas blodau, yn chwilio am neithdar ac yn aros am gymar. Mae rhai gweithwyr hefyd yn gallu gosod wyau heb eu ffrwythloni, ond mae’r frenhines yn atal hyn gan ddefnyddio ymosodedd corfforol a fferomonau. Bydd gweithwyr hefyd yn bwyta neu yn cael gwared â bron pob wyau a fydd yn cael eu dodwy gan weithwyr eraill (a elwir yn plismona gweithwyr), sy’n golygu mae’r frenhines yw rhiant yr holl unigolion yn y gytref yn ystod y cyfnod hwn.
Unwaith bydd y wyau gwrywaidd yn cael eu gosod, bydd y gweddill o’r wyau ffrwythlon yn cael eu bwydo yn fwy na’r wyau blaenorol, a bydd y rhain yn datblygu yn freninesau newydd. Mae’r frenhines wreiddiol yna yn colli ei gallu i atal atgynhyrchu’r gweithwyr ac mae’r gweithwyr yn dechrau gosod wyau sy’n datblygu mewn i wrywod. Mae hyn yn creu gwrthdaro rhwng y gweithwyr a’r frenhines a all orfodi’r hen frenhines i ffoi o’r gytref. Mae’r breninesau newydd yn gadael y gytref i ddod o hyd i gymar cyn storio paill a neithdar am y gaeaf hir i ddod. Yn y diwedd, mae’r frenhines wreiddiol yn marw gyda’i meibion a’i gweithwyr wrth i’r rhew gyntaf ymddangos.
Yn Ne Lloegr yn enwedig, gwelwyd rhai rhywogaethau o gacwn yn bwydo yn ystod y gaeaf. Mae hwn yn golygu bod breninesau newydd yn creu cytrefi newydd yn hytrach na gaeafgysgu, o ganlyniad i’r tymheredd cynhesach. Mae planhigion blodeuol y gaeaf fel mahonia yn fuddiol iawn yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer darparu adnodd. Gallwch chi gofnodi os ydych wedi gweld cacwn gaeaf yma.
Gwenyn mêl
Mae gyda gwenyn mêl system gymdeithasol yn debyg i gacwn, ond mae eu cytrefi yn llawer fwy o faint. Fel arfer, maent yn cael eu cadw gan bobl mewn cychod, er mwyn cynhyrchu mêl, ond gall cytrefi gwyllt bodoli. Gall un gytref gynnwys degau o filoedd o weithwyr a hyd at sawl mil o wenyn gwrywaidd (gwenyn gormes), ynghyd â’r frenhines.
Mêl yw’r prif fwyd y maent yn dibynnu ar yn ystod misoedd oer y gaeaf, serch hynny gall paill hefyd cael ei defnyddio fel ffynhonnell o brotein. Os ydy’r ddarpariaeth yn brin, gall y gytref rewi a marw. Unwaith mae’r haf yn dod i ben ac mae’r tymheredd yn dechrau gostwng, mae’r gyfradd y mae’r frenhines yn gosod wyau yn lleihau, ac mae’r gweithwyr yn canolbwyntio ar gadw’r gytref yn gynnes. Cyn y gaeaf, mae’r gwenyn gormes yn cael eu gorfodi allan gan eu bod bellach yn ddiwerth, ond ni allant fforio dros eu hunain felly byddant yn marw yn fuan.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae gweithgaredd y gytref yn isel iawn ond, os oes dyddiau cynnes yn y gaeaf, gall gweithwyr gadael y cwch i gasglu neithdar. O ganol y gaeaf ymlaen, bydd y frenhines yn dechrau dodwy wyau eto, gan ddodwy’n fwyaf ar ddiwedd y gwanwyn. Mae’r frenhines yn gallu dewis i osod wyau ffrwythlon neu anffrwythlon, sy’n datblygu mewn i weithwyr a gwenyn gormes yn y drefn honno. Yr unig bwrpas o wenyn mêl gwrywaidd yw cyplu gyda’r frenhines yn ystod ei hediad gwyryfol, ac ar ôl hynny byddant yn marw.
Mae cylch bywyd gwenyn mêl yn llawer mwy cymhleth na chacwn gan eu bod yn dueddol o oroesi blwyddyn ar ôl blwyddyn os yw’r boblogaeth yn iach ac yn cael eu rheoli’n ddwys gan bobl. Gall frenhines gwenyn mêl fyw am dair i bedair blynedd ond fel arfer caiff ei newid ar ôl un neu ddau.
Gwenyn unigol
Mae gwenyn unigol yn llawer mwy amrywiol rhwng rhywogaethau pan ddaw i aeafgysgu. Bydd y rhan fwyaf yn marw cyn i’r gaeaf gyrraedd, ar ôl gadael eu hwyau mewn lle diogel gyda chyflenwad o baill a neithdar. Bydd gwenyn unigol sy’n gadael y nyth yn y gwanwyn (e.e. y saerwenynen goch, Osmia bicornis) yn datblygu dros yr haf o wy i oedolyn ifanc, gan wario’r gaeaf yn aros i’r tymheredd codi digon er mwyn iddynt adael. Mae’r rhai sy’n ymddangos yn hwyrach yn y flwyddyn yn gaeafu fel larfa ac yn tyfu ychydig iawn, gan gwblhau eu cylch bywyd yn ystod y gwanwyn (e.e. gwenyn ddeildorrol, Megachile willughbiella).
Mae ychydig iawn o rywogaethau gwenyn unigol yn gallu gaeafu fel oedolion yn y DU ac yn gyfyngedig yn bennaf i’r siroedd deheuol (rhai rhywogaethau Lasioglossum a Halictus). Bydd y rhain yn cyplu yn yr hydref a bydd y benywod yn gaeafgysgu o dan y ddaear, gan ymddangos eto yn y gwanwyn i ddodwy wyau.