Rwy’n hoff iawn o fy ngwaith.
Rwy’n hwylusydd TBDd yn GFGC (o leiaf dyna rydw i’n ei gredu!) Dydw i ddim yn siŵr a yw cuddio pryfyn pric marw, mawr a dweud wrth bawb am gadw llygad amdano am ei fod wedi “dianc i mewn i’r ardd” yn rhan o ddisgrifiad y swydd, ond roedd yn llawer o hwyl. Roedd yna rai wynebau pryderus yn chwilio ym mhob twll a chornel. Hyd yn oed pan gafodd ei “ddarganfod” gan ein harweinydd rhagorol, Tanya O’Sullivan, y therapydd galwedigaethol, gyda chymaint o falchder! Hi, hi, hi!!
Ar fater tebyg, mae malwod wedi mwynhau’r cyfnod clo yn ein gardd.
Daeth Iwan yn wyliwr malwod effeithiol tu hwnt gyda diwedd rhyfeddol. Af fi ddim y fanylu.
Ac wedyn daeth chwynnu.
Ac wedyn daeth tocio.
Ac wedyn daeth perlysiau ffres.
Ac yna daeth te a sgwrs a chynlluniau a chysylltiadau da. Diolch ichi i gyd am ddiwrnod llawn hwyl.