2 Tach 2020

Manteisio i’r eithaf ar Gwyr Gwenyn

Martin Davies

Wrth i ni gynnal ein harolygiadau o’r cychod gwenyn gydol y tymor, rydym bob amser yn cario pot defnyddiol i gasglu unrhyw grafiadau cwyr neu grwybr angori. ‘Nawr ein bod wedi tynnu ein blychau mêl, bydd y fframiau’n cael eu glanhau, a bydd y cwyr yn cael ei dynnu oddi ar fframiau sydd wedi’u difrodi neu hen fframiau, a fframiau newydd yn cael eu rhoi yn eu lle. Mae’n ofynnol crafu unrhyw gwyr dros ben sydd ar yr ochrau, a bydd hwn hefyd yn cael ei gasglu gan fod cwyr gwenyn yn nwydd gwerthfawr y gallwn wneud defnydd da ohono. Yna caiff y blychau mêl eu deifio i’w sterileiddio, a’u pentyrru y tu allan i’w storio dros y gaeaf.

Mae yna sawl dull o lanhau cwyr:

Echdynnwr cwyr solar – defnyddir hwn fel arfer yn ystod misoedd yr haf. Blwch wedi’i inswleiddio ydyw, ac ynddo siambrau i doddi’r cwyr brwnt a chasglu’r cwyr glân. Disgyrchiant sy’n peri i hyn ddigwydd. Mae’r echdynnwr hwn yn cymryd symiau bach o gwyr, a all fod yn ddefnyddiol os caiff ei ddefnyddio’n rheolaidd ac os oes gennych ddigon o heulwen i doddi’r cwyr. Gall fod yn broses araf iawn, ond mae’n ecogyfeillgar.

Cabinet cynhesu – mae gan hwn ffynhonnell wres y gellir rheoli ei thymheredd, sy’n golygu bod y cabinet yn haws ei reoli na’r echdynnwr cwyr solar gan nad oes raid dibynnu ar y tywydd. Gellir toddi’r cwyr trwy bapur hidlo mewn colandr ac i mewn i bowlen gasglu. Gellir ailddefnyddio’r papur hidlo fel tanwyr i gynnau tân os caiff ei dorri’n stribedi bach ar ôl ei ddefnyddio.

Dull dŵr poeth – gellir rhoi cwyr budr mewn padell o ddŵr poeth a’i fudferwi nes bod y cwyr yn toddi. Wrth i’r dŵr oeri, bydd y cwyr yn codi i’r brig a’r malurion yn aros yn y dŵr. Gellir tynnu’r cwyr wedi iddo setio. Gall y dull hwn fod braidd yn frwnt, ond mae’n ddefnyddiol ar gyfer glanhau ychydig bach o gŵyr.

Echdynnwr ager – rhoddir y cwyr budr mewn bag mwslin neu rwyll i ddal y malurion. Mae dŵr yn cael ei gynhesu i greu ager sy’n toddi’r cwyr, ac mae’r cwyr glân yn tywallt i fwced neu gynhwysydd i oeri. Mae cwyr wedi’i doddi fel hyn yn tueddu i fod â mwy o lud gwenyn ynddo, ond gellir ei lanhau trwy hidlo rhagor arno.

Wedi i chi rendro a glanhau eich cwyr, gallwch ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Yma yn yr Ardd Fotaneg rydym yn defnyddio’r cwyr gorau ar gyfer ein cynhyrchion cosmetig Aur yr Ardd, ynghyd ag ar gyfer gwneud canhwyllau sy’n cael eu gwerthu yn ein hardaloedd manwerthu, a blociau cwyr bach y gellir eu defnyddio i wneud defnydd lapio cwyr gwenyn. Defnyddir y blociau cwyr mwy i ffurfio sail pan fydd fframiau newydd yn cael eu llunio i’w defnyddio yn y wenynfa yn y tymor newydd.

Defnyddir ein cwyr gwenyn hefyd yn yr amrywiaeth o gyrsiau sy’n cael eu cynnig yn yr Ardd. Mae’r rhain yn cynnwys llunio canhwyllau wedi’u mowldio, eu rholio neu eu trochi; cyrsiau cosmetigau sy’n cynnwys gwneud hufenau a balmau; a’n harddangosiadau gwneud sebon.

Lynda Christie
28 Hydref 2020