1 Hyd 2020

Planhigion Tomato, Bylbiau a Blodau Gwylltion

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Planhigion Tomato, Bylbiau a Blodau Gwylltion

Gan fod y dydd nawr yn mynd yn fyrrach ac yn fwy llaith, mae malltod yn berygl gwirioneddol ar unrhyw blanhigion tomato sydd gennych dros ben. Os gwelwch arwyddion malltod neu os ydych eisoes wedi cael malltod, ewch â’r planhigion o’r ardd a’u llosgi yn hytrach na’u rhoi ar y domen gompost. Heb eu llosgi bydd sborau’r ffwng yn byw dros y gaeaf, ac wrth i chi daenu’r compost ar y gwelyau yn y gwanwyn, byddwch yn rhoi’r sborau nôl yn y pridd yn uniongyrchol. Os yw eich planhigion chi fel fy rhai i, yna mae’n debyg fod gennych nifer fawr o domatos bach gwyrdd ar ôl ar y planhigion. Os nad oes malltod ar y tomatos hyn, peidiwch â’u taflu, ond yn hytrach gwnewch siytni tomatos gwyrdd blasus ichi’ch hun (mae rysáit i’w gweld isod). Os gwnewch y siytni nawr, bydd wedi aeddfedu’n berffaith i wneud brechdanau ar gyfer dathliadau diwedd y flwyddyn.

Mae bylbiau’n dod nôl i’r siopau nawr, ac mae’n syniad da dechrau meddwl pa fylbiau fyddech chi’n eu hoffi a faint fydd arnoch eu hangen i lenwi’ch trefniant. Mae mynd i mewn i ganolfan garddio neu fynd at ddeliwr ar-lein heb restr bendant yn ffordd sicr o wario llawer iawn o arian! Yn wir, os byddwch yn bwriadu plannu nifer o botiau, mae’n syniad da cadw at fathau bach o fylbiau, fel Narcissus ‘Tête-à-tête’ sydd bob amser yn boblogaidd, gan ychwanegu ychydig fylbiau saffrwn hefyd. Yn union ar ôl ichi gael y bylbiau, mae’n syniad da eu plannu mor fuan â phosibl er mwyn sicrhau’r sioe orau sy’n bosibl.

Mae’n bryd tocio unrhyw rannau o flodau gwylltion sydd gennych yn eich gerddi. Erbyn hyn dylent fod wedi hadu a bod yn barod i’w tocio’n dda i’w paratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod, Wrth docio blodau gwylltion, cofiwch eu torri gan osod llafnau’r torrwr modur mor uchel â phosibl, ac yna tynnwch gribin dros y pridd i grynhoi unrhyw doriadau sydd ar ôl. Mae blodau gwylltion yn hoffi pridd gwael, felly bydd gadael y toriadau i bydru yn eu paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os byddwch wedi bod yn yr Ardd Fotaneg yr wythnos hon, hwyrach y byddwch wedi gweld ein garddwriaethydd, Blue, yn defnyddio pladur i docio rhai darnau o flodau gwylltion. Mae defnyddio pladur yn gyflymach na strimiwr, mae’n well i’ch cefn, a hefyd mae’n haws clirio wedyn gan fod y toriadau’n rhai mawr, a bydd fforch wedyn yn gwneud yr holl waith i chi. Gyda phladur hefyd bydd yr holl greaduriaid di-asgwrn-cefn a’r amffibiaid sy’n cuddio yng nghanol y planhigion yn hollol ddiogel.

Os oes gennych unrhyw goed ffrwythau hefyd yn eich gardd, mae’n syniad da clirio unrhyw ffrwythau sydd wedi disgyn mor fuan ag y gwelwch chi nhw, oherwydd mae eu gadael ar y ddaear yn gallu achosi pla ac afiechyd yn y cnwd sydd ar ôl. Yn aml iawn ni fydd y ffrwythau hynny’n wastraff llwyr. Os gofalwch gasglu’r ffrwythau’n rheolaidd, gallech weld nad ydyn nhw wedi cleisio’n ddrwg ac felly gallwch eu defnyddio i wneud jam a siytni, neu i goginio lle  nad yw eu golwg yn bwysig. Ar gyfer y ffrwythau sydd ar ôl ar y coed, codwch nhw’n ofalus oddi ar y gangen, ac os byddan nhw’n dod i ffwrdd a darn bach o’r coes gyda nhw, maen nhw’n barod i’w cynaeafu. Ond os bydd angen ichi dorri neu dynnu’r ffrwythau oddi ar y gangen, yna gwell eu gadael am ychydig eto.

Yn olaf, gan fod y gaeaf ar ei ffordd, mae’n syniad da mynd i’r afael â thwtio unrhyw lwybrau yn eich gardd. Bydd treulio diwrnod yn chwynnu a sgubo’r llwybrau yn gwneud i’r ardd edrych lawer yn fwy cymen dros y gaeaf, a bydd hefyd yn osgoi perygl llithro ar fwsogl wedi rhewi yn tyfu dros unrhyw lechi yn nyfnder y gaeaf.

Ben Wilde

Hyfforddwr Garddwriaeth