9 Hyd 2020

Blog Gwenyn – ar ddechrau mis Hydref

Martin Davies

Mae yna lawer o sêr-flodau yn y brif Ardd, ac mae’n ymddangos bod gwenyn unig a phryfed hofran yn ymweld â nhw tra bo’r gwenyn mêl yn chwilota ymhlith yr iorwg a Jac y neidiwr, ac roedd y streipiau gwyn cyfarwydd yn amlwg iawn ar gefnau’r chwilotwyr.

Mae’r weithred olaf o “uno nythfeydd” wedi’i gwblhau erbyn hyn, a gobeithio ein bod wedi rhoi’r cyfle gorau i’r nythfa hon oroesi tan y gwanwyn, a hynny trwy chwyddo nifer y gwenyn i gasglu’r storfeydd hwyr o neithdar a phaill.

Pan ddechreuais gadw gwenyn, dros 20 mlynedd yn ôl, roedd diwedd tymor y gwenyn ym mis Hydref, ac ni fyddech yn tueddu i archwilio’r gwenyn llawer tan yr archwiliad cyntaf y mis Mawrth canlynol. Erbyn hyn, gyda’r gaeafau mwy tyner a’r tywydd amrywiol, gall y gwenyn fod yn llawer mwy egnïol. Byddant yn hedfan ar ddiwrnodau cynnes i’w glanhau eu hunain, ac yn chwilota ymhlith unrhyw blanhigion sy’n blodeuo’n hwyr. Yn ystod gaeafau mwynach, efallai na fydd y gwenyn yn ffurfio clwstwr tyn, ac efallai na chaiff y frenhines seibiant rhag dodwy wyau. Gall meithrin mag barhau ar hyd y flwyddyn, ac mae hyn yn defnyddio llawr o’u hadnoddau. Dyma pam yr ydym ‘nawr yn archwilio’r nythfeydd yn rheolaidd trwy gydol misoedd y gaeaf, er mwyn sicrhau bod anghenion y gwenyn yn cael eu diwallu, a bod ganddynt ddigon o fwyd i bara trwy’r gaeaf. Bydd hyn yn arbennig o bwysig eleni oherwydd cafodd y prif fisoedd chwilota eu taro gan dywydd drwg, ac felly mae pob un o’n nythfeydd wedi bod yn brwydro i fynd allan i gasglu digon o storfeydd.

Rydym wedi archwilio ein gwenyn i weld a oes yna widdon Vaaroa, ac wedi rhoi triniaeth lle bo angen, ond bydd y Varroa yn parhau i fridio gan fod yna fag a larfâu i fwydo arnynt, a gall hyn niweidio iechyd y cwch gwenyn. Dyma’r rheswm pam y mae’n bwysig ein bod yn cadw nifer y gwiddon mor isel â phosibl oherwydd, hyd yn oed os bydd y frenhines yn rhoi’r gorau i ddodwy, bydd unrhyw widdon yn y nythfa yn bwydo ar gyrff tew’r oedolion, gan eu gwanhau a lledaenu clefydau.

Byddaf yn archwilio pwysau’r cychod gwenyn yn rheolaidd trwy eu “halio” (eu codi), a fydd yn rhoi rhyw syniad a oes ganddynt storfeydd digonol, ac yn rhoi bwyd ychwanegol iddynt os bydd angen. Ym mis Rhagfyr, bydd pob cwch gwenyn yn cael ei drin ag asid ocsalig er mwyn gwaredu ar unrhyw widdon bondigrybwyll sydd ar ôl.

Yn un o’n gwenynfeydd ar ymyl yr Ardd, rydym yn ehangu ac yn aildrefnu’r safle. Mae’r gwenyn wedi cael eu symud oddi yno hyd nes y bydd y gwaith o baratoi’r pridd a chlirio wedi dod i ben. Mae angen i ni benderfynu sut i drefnu’r safle newydd a’i gael yn barod ar gyfer dychweliad y gwenyn yn yr ychydig wythnosau nesaf. Felly, rydw i a’m gwenynwyr yn mynd amdani ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod hyn yn digwydd. Gobeithio y bydd y gwenyn yn gwerthfawrogi ein hymdrech!

Lynda Christie

10 Mis Hydref, 2020