7 Medi 2020

Porthi ar gyfer y gaeaf

Martin Davies

Mae’r clystyrau o bennau blodau yn dal i fod wedi’u selio mewn peli bach tyn. Os bydd yr haul yn tywynnu, efallai y byddant yn agor ac yn rhoi porthiant mawr ei angen i’r gwenyn!

Yn y cyfamser, mae’n rhaid i mi ail-lenwi’r porthwyr er mwyn helpu’r gwenyn i borthi ar gyfer storfeydd y gaeaf.

Roedd tymor eleni yn un rhyfedd. Mae gwenyn wedi llwgu yn ystod prif fisoedd yr haf o ganlyniad i’r tywydd drwg; mae gwenyn wedi bod yn heidio’n annisgwyl; ac mae rhai cychod gwenyn wedi bod yn araf iawn yn cynyddu. Yr wythnos yma, cyrhaeddais yr ardd wenyn i ddarganfod bod un o’r cychod gwenyn wedi ffurfio celloedd breninesau i gynhyrchu breninesau newydd, ac wedi gyrru haid allan. Roedd yr haid wedi ymgartrefu mewn Cnewyllyn ac, o’i archwilio, roedd yn ymddangos fel pe na bai ganddo frenhines. Wrth archwilio’r cwch gwenyn gwreiddiol, daeth dwy frenhines newydd i’r golwg, felly gadawyd un yno, a rhoddwyd y llall yn y Cnewyllyn. Gobeithio bod yna ddigon o wenyn segur yn dal o gwmpas i’r breninesau gwyryf baru’n ddigonol. Mae’r rhan fwyf o’n cychod gwenyn eisoes wedi bwrw eu gwenyn segur allan. Bydd rhaid i ni aros i weld.

Rydym yn dal i brosesu mêl yr oeddem wedi llwyddo i’w gasglu o rai o’r nythfeydd cryfach, ac rydym yn gobeithio ei botelu cyn hir. Caiff y bocsys gwag eu dychwelyd i’r nythfeydd i’w glanhau, ac yna cânt ei symud a’u gosod yn y rhewgell i waredu unrhyw larfâu cwyrwyfynod posibl. Yna, cânt eu gosod mewn pentwr, eu selio ar y pen a’r gwaelod i’w cadw’n rhydd rhag plâu, a’u storio yn yr awyr agored dros y gaeaf, yn barod i’w defnyddio yn y tymor dilynol. Mae angen labelu pob bocs fel ein bod yn ei ailddefnyddio yn y wenynfa gywir. Bydd y cwyr yn cael ei dynnu allan o hen grwybrau neu o grwybrau sydd wedi’u difrodi, a’i doddi a’i lanhau. Gall y cwyr hwn gael ei ailddefnyddio i wneud canhwyllau, a gall llenni cwyr newydd gael eu gosod yn y fframiau sydd wedi’u glanhau er mwyn eu hailddefnyddio. Felly, bydd gennym ddigon o waith i’w wneud yn ystod misoedd tawelach y gaeaf.

Ond, am yr ychydig wythnosau nesaf, bydd yn rhaid i ni barhau i helpu’r gwenyn i baratoi ar gyfer y gaeaf trwy fwydo a chyfuno nythfeydd lle bo angen, er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt lwyddo y gwanwyn nesaf.

Lynda Christie

4 Mis Medi, 2020