15 Medi 2020

Croeso i’r Hydref

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i’r Hydref

Mae’r diwrnodau’n mynd yn fyrrach a’r aer wedi dechrau magu ychydig o naws. Wrth edrych ar y coed byddwn yn dechrau gweld rhai newidiadau cynnil yn eu lliwiau ac arlliw o goch ac oren. Ydy, mae’r hydref wrth y drws. Gyda hynny daw tasgau newydd i’w gwneud a phlanhigion newydd i’w mwynhau, a dyma’r adeg orau o’r flwyddyn i wneud newidiadau mawr ac ail-lunio.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweld newidiadau hardd mewn lliwiau, a bydd gwead y coed a’r llwyni’n dechrau ymddangos. Ond beth ddylem ni fod yn ei wneud i baratoi ar gyfer y misoedd i ddod?

Yn gyntaf, dyma’r tymor i docio a thwtio, felly gwnewch yn siŵr fod eich siswrn garddio yn finiog iawn, iawn! Mae offer heb awch yn beryglus. Mae angen mwy o ymdrech i’w gweithio, ac felly maen nhw’n fwy tebygol o wneud ichi lithro ac anafu eich hun a’r planhigyn. Ceisiwch ddefnyddio’r wythnos hon i lanhau eich hoff siswrn yn drwyadl er mwyn iddo fod mor finiog ag y gall fod ar gyfer y misoedd i ddod.

Tra rydym yn meddwl am offer, beth am lanhau eich rhaw a’ch fforch yn dda a sicrhau bod eu coesau’n gyffyrddus ac yn gadarn? At hynny, tynnwch ffeil ar draws y pigau a’r llafnau ar eich offer palu, er mwyn iddyn nhw fod yn barod i dorri drwy’r pridd yn rhwydd. Os oes gennych offer â choesau pren, bydd eu rhwbio’n ysgafn â gwlân dur a rhoi côt neu ddwy o olew had llin arnynt wedyn yn gwneud gwyrthiau, ac yn eu hatal rhag cael eu treulio’n ddim yn y tywydd drwg sydd i ddod.

Gan fod y dail yn disgyn, gall hynny achosi cymhlethdod posibl i unrhyw ddŵr sydd yn eich gardd. Felly, manteisiwch ar yr wythnos hon i osod rhwyd dros unrhyw lynnoedd cyn i’r dail ddechrau disgyn. Bydd hynny’n ei gwneud lawer yn gyflymach a haws eu glanhau drwy’r tymor, ac mae hefyd yn golygu llawer llai o laid wrth lanhau’r llyn yn y gwanwyn!

Yn olaf, cymerwch hoe i fwynhau eich gardd ac ymgysylltu â natur ar ôl treulio’r haf yn gweithio arni. Rydych wedi gofalu’n fanwl am eich gwelyau a’ch lleiniau, felly arhoswch i fwynhau eich llafur, nid poeni am y manion rydym yn pryderu amdanynt. Mwynhewch y tymhorau wrth iddyn nhw newid, a gwerthfawrogwch eich lle eich hun, beth bynnag fo’i faint a’i leoliad.

Ben

Hyfforddwr Garddwriaeth