25 Medi 2020

Chwilotwyr yr hydref a phryderon y gaeaf

Martin Davies

Lynda Christie, y wenynwraig fotanegol, yn mynd i’r afael â heriau’r tymhorau sy’n newid

Mae’r iorwg yn ei flodau ac wedi’i orchuddio â gwenyn a phryfed hofran yn manteisio ar heulwen mis Medi i ychwanegu at eu storfeydd neithdar.

Mae’r friweg allan yn yr ardd furiog ac wedi’i gorchuddio â pheillwyr. Mae hwn yn blanhigyn mor dda i fywyd gwyllt ac yn hwb y mae’r gwenyn yn ei groesawu i helpu gyda’u paratoadau hwyr yn y tymor. Gobeithio y bydd y cyfnod hyfryd hwn o dywydd heulog yn para am yr wythnos neu ddwy nesaf i ganiatáu i’r gwenyn fanteisio ar borthiant yr hydref.

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym yn cyfuno cychod gwenyn ac yn sicrhau bod y nythfeydd yn ddigon cryf i gael y siawns orau o oroesi’r gaeaf.

Mae’r haid hwyr wedi paru’n llwyddiannus, ac mae’r frenhines yn dodwy’n hynod o dda. Rydym wedi uno’r nythfa hon ag un arall a oedd bellach heb frenhines ond yn llawn gwenyn, felly gobeithio ein bod wedi rhoi’r cyfle gorau iddynt oroesi tan y gwanwyn.

Mae nythfa arall a gyfunwyd gennym yr wythnos diwethaf wedi bod yn llwyddiannus. Rydym wedi cyfuno’r blychau i ffurfio un blwch mag gyda blwch bas o storfeydd. Mae gan y nythfa hon ddigon o wenyn, mag a bwyd bellach, felly mae’r rhagolygon ar gyfer y gwenyn hyn yn llawer gwell erbyn hyn.

Ychydig wythnosau’n ôl, roedd ein prif wenynfa wedi cael ei thrin ar gyfer gwiddon varroa, ac mae bellach wedi cael ei gwirio eto am widdon marw, a oedd yn agos at fod yn ddim.

Yn y wenynfa addysgu, roedd y cyfrif gwiddon yn ymddangos yn isel y mis diwethaf, felly nid aethom ati i drin. Fodd bynnag, wrth wirio ymhellach, mae’n ymddangos bod y cyfrif gwiddon wedi saethu i fyny, felly, fel rhagofal, rydym wedi defnyddio dull gwahanol, sef anweddiad ocsalig, i ddelio â’r gwiddon.

Pe na fyddem yn delio â’r varroa fel hyn, byddent yn bwydo ar yr oedolion ymhlith gwenyn y gaeaf, ac yn eu gwanhau, ac efallai na fyddent yn gallu goroesi trwy fisoedd hir y gaeaf sydd o’n blaenau. Bydd yn rhaid ailadrodd y driniaeth hon am dair wythnos gan fod mag wedi’i selio ym mhob cwch gwenyn.

Ni all yr anwedd dreiddio i’r crwybrau sydd wedi’u selio, a bydd y varroa yn dod allan o gelloedd y mag wrth i’r gwenyn ifanc ddeor. Dyma pam, felly, y mae’n rhaid i ni ailadrodd y driniaeth i geisio lleihau’r gwiddon a rhoi’r cyfle gorau posibl i’r nythfeydd lwyddo ar drothwy’r gaeaf.

Lynda Christie
17 Medi, 2020