11 Awst 2020

Gwenyn Meirch Felltith!

Martin Davies

Cyn i ni ddechrau ar ein harchwiliadau yng ngwenynfeydd yr Ardd, rwy’n ceisio neilltuo ychydig o amser i arsylwi ar yr hyn sy’n digwydd wrth y fynedfa ac o amgylch y wenynfa. Rwy’n gwirio bod y gwenyn yn ymddwyn yn normal ac, ar yr adeg hon o’r flwyddyn, nad ydynt yn cael eu poeni gan wenyn meirch.

Gall gwenyn meirch fod yn drafferthus iawn i’r gwenyn, maent yn ddyfal iawn o ran eu hymdrechion i fynd i mewn i gwch, a gallant wagio nythfa os cânt eu gadael heb eu herio. Mae’r gwenyn wedi cael tymor anodd yn ceisio sicrhau digon o storfeydd i gynnal nythfeydd, a ‘nawr bod angen iddynt gasglu storfeydd ar gyfer y gaeaf, y peth olaf y mae ei angen yw gwenyn meirch felltith yn dwyn y storfeydd y maent wedi gweithio mor galed i’w cronni. Roedd yn ymddangos fel petai gwenyn meirch yn mynd i mewn i ddau gwch gwenyn yn y brif wenynfa heb gael eu herio; felly, roedd angen archwilio’r rhain, a phenderfynais roi giard gwenyn meirch ar bob cwch gwenyn er mwyn helpu i leihau’r risg i’r nythfeydd.

Aethom ati i uno un o’r nythfeydd llai â nythfa iach. Bydd hyn yn rhoi hwb i nifer y gwenyn yn y nythfa ac yn darparu gwenyn wrth gefn i helpu i gasglu neithdar a phaill i’w cludo i’r nythfa trwy’r misoedd main.

Mae gennym un nythfa sy’n cyflwyno brenhines newydd, ac, er ei bod yn ymddangos fel petai rhai cychod wedi dechrau hel eu gwenyn segur allan, rwy’n gobeithio bod yna ddigon o wenyn segur o amgylch i baru’n ddigonol â’r frenhines newydd hon i allu ffurfio nythfa newydd. Os bydd hi’n aflwyddiannus, byddaf yn eu hailgyflwyno’n ôl i’w nythfa wreiddiol, felly ni fydd popeth yn ofer!

Rydym yn gobeithio casglu mêl y tro nesaf. Archwiliwyd  llofftydd mêl i weld a oes yna ormodedd o fêl i’w gasglu, ac a yw’n barod i’w gasglu. Mae angen i’r mêl gael ei gapio â chwyr ac i gynnwys y dŵr ostwng cyn y bydd yn barod i gael ei gasglu. Gellir gwirio hyn trwy ddefnyddio reffractomedr. Gellir tynnu sampl fach o’r mêl gyda matsien a’i roi ar y gwydr, ac mae’r darlleniad yn hawdd ei weld. Yn hanesyddol, mae cynnwys dŵr mêl yr Ardd oddeutu 17%, ond gellir casglu’r mêl yn ddiogel os yw’r cynnwys dŵr rhwng 17 a 20%.

Mae rhai llofftydd mêl posibl yn barod i’w tynnu, ac rydym yn gobeithio y byddant wedi cael eu capio’n llawn erbyn yr wythnos nesaf …

Lynda Christie

6 Awst , 2020