27 Awst 2020

Amser bwydo i’r gwenyn

Martin Davies

Mae’r streipiau gwyn amlwg i’w gweld ar y gwenyn pan fyddant yn dychwelyd o fod yn chwilota ar y planhigyn, ond mae’n rhaid i ni eto ddod o hyd i’r ffynhonnell Jac y Neidiwr sydd yn ymyl yr Ardd. Mae’r grug yn ei flodau ar y bryniau, a’r bengaled yn dal yn y dolydd, ac mae’r gwenyn llwglyd yn mynd allan i chwilota yn y cyfnodau o dywydd braf rhwng y stormydd.

Roedd y rhagolygon ar gyfer diwrnod yr arolygiadau yr wythnos hon yn addo tywydd teg, gyda’r gwynt yn cryfhau yn ystod y dydd. Gyda hyn mewn golwg, aethom ati i ddechrau ar ein gwiriadau ychydig yn gynharach na’r arfer, i geisio cael y blaen ar y tywydd. Fel y gwenynwyr eraill yn yr ardal, rydym wedi cael hysbysiad newyn gan yr Uned Wenyn Genedlaethol, felly ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gan ein gwenyn ddigon o storfeydd. Cyn ymweld â’r gwenynfeydd, gwnaethom yn siŵr bod digon o surop wedi cael ei baratoi a’i ddosbarthu iddynt, yn barod ar gyfer bwydo yn ôl yr angen. Mae bod yn barod bob amser yn beth da!

Mae’r gwenyn i’w gweld yn iawn o ran eu storfeydd ar hyn o bryd, sy’n rhyddhad. Mae’r iorwg i ddod i’w flodau, a bydd y Jac y Neidiwr ar gael am ychydig hirach, felly gobeithio y bydd y gwenyn yn gallu mynd allan a defnyddio’r rhain i roi hwb i’w storfeydd ar gyfer y gaeaf.

Mae gennym rai llofftydd mêl i’w tynnu i ffwrdd o hyd fel y gallwn roi byrddau cliriach ar y cychod gwenyn priodol. Bydd hyn yn galluogi’r gwenyn i adael y blychau gan y bydd ganddynt fynedfeydd un ffordd, ac felly gallwn eu tynnu i ffwrdd mewn diwrnod neu ddau, a hynny gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Roeddwn yn teimlo tipyn o ryddhad bod y nythfeydd hyn yn mynd i gynhyrchu cnwd o hyd. Nid yw hon yn mynd i fod yn flwyddyn arbennig o dda, ond bydd yna rywfaint o gnwd, o leiaf.

Yn dilyn defnyddio’r driniaeth thymol yr wythnos diwethaf, aethom ati hefyd i wirio ein mewnosodiadau llawr am gyrff gwiddon. Roedd yn ymddangos bod niferoedd y gwiddon marw yn isel iawn, felly a ydynt yn bodoli? Rwyf braidd yn amheus o’r canlyniad hwn, ac yn amau bod y gweddillion wedi cael eu chwythu oddi ar y byrddau!

Rhaid i mi fynd ‘nawr i strapio’r cychod gwenyn fel nad ydynt yn cael eu chwythu drosodd yn y gwyntoedd cryfion a ragwelir!

Lynda Christie

21 Mis Awst, 2020