30 Gorff 2020

Uno a Ffynnu! Gan Lynda Christie

Angharad Phillips

Datrys y broblem o nythfa heb frenhines

Mae’n ofynnol i ni fod â rheswm bob amser dros agor y cychod gwenyn ac aflonyddu ar y gwenyn. Y prif nod yr wythnos hon oedd asesu a oedd angen rhoi mwy o flychau yn y nythfeydd er mwyn i’r gwenyn brosesu llif y neithdar a ffurfio storfeydd mêl.

Os ydym eisoes yn gwybod bod y frenhines mewn nythfa yn iawn, ac wedi rhoi’r gorau i gynyddu, nid oes angen i ni aflonyddu cymaint ar nyth y mag, dim ond gwirio bod gan y frenhines ddigon o le i ddodwy.

Ychwanegwyd llofftydd mêl (blychau bas) lle roedd angen, ac yna aethom ymlaen i’r nythfeydd hynny a oedd angen ychydig mwy o sylw.

Bu i ni hefyd yr wythnos hon wirio pob cwch gwenyn am lefelau’r gwiddon. Roedd lloriau wedi cael eu mewnosod yr wythnos diwethaf, felly aethom ati i gyfrif pob bwrdd i asesu faint o widdon a oedd wedi syrthio trwodd. Yn ffodus, nid oedd gwiddon ar y rhan fwyaf o’r byrddau, ac roedd y niferoedd ar y lleill yn isel iawn, sy’n golygu nad oes angen triniaeth ar hyn o bryd.

Mae un nythfa’n gwbl anobeithiol bellach gan nad oes ganddi frenhines. Bu i ni fethu haid bwysig, ac er i ni gymryd mesurau i’w hatal rhag bwrw heidiau, aeth y gwenyn ati i wneud yn union hynny, gan ddisbyddu niferoedd y nythfa unwaith eto, a methu magu brenhines newydd.

Ychwanegwyd ffrâm brawf o wyau gyda larfâu ifanc, a hynny o leiaf ddwywaith, i geisio denu’r gwenyn i fagu brenhines newydd, ond ar ôl wythnosau di-fudd, bu i ni benderfynu cyfuno’r gwenyn hyn â nythfa arall a oedd yn iawn o ran ei brenhines, er mwyn rhoi hwb i rym chwilota’r nythfa honno.

Mae gan y nythfeydd eu harogl unigryw eu hunain, a phe byddech yn uno nythfeydd yn uniongyrchol, gallent ymladd, a niweidio neu ladd y frenhines.

Dyma pam yr ydym yn defnyddio’r dull papur newydd i gyfuno dwy nythfa. Rhoddir dalen o bapur newydd rhwng dau flwch y mag, a dalen arall rhwng y rhain ac unrhyw lofftydd mêl. Ar ôl diwrnod neu ddau, mae’r gwenyn yn cnoi trwy’r papur ac, wrth wneud hynny, yn cyfuno arogl y ddau gwch gwenyn yn raddol, i ffurfio un nythfa.

Mae yna nifer o dronau llond eu croen yn ein nythfeydd o hyd. Defnyddir y rhain i baru â breninesau newydd sy’n dod allan o gychod gwenyn sy’n dymuno disodli hen frenhines neu frenhines sy’n gwanhau. Rydym yn mynd i ddefnyddio’r ysgogiad hwn i ddisodli i fagu breninesau newydd. Mae paratoadau ar y gweill i ddechrau’r gwaith hwn, a gobeithio y gallaf roi diweddariad y tro nesaf …