26 Gorff 2020

Peilliwr y dydd #7 – Eristalis pertinax

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Hon yw un o’n pryfed hofran mwyaf cyffredin ac mae’r rhywogaeth yn perthyn i grŵp o bryfed hofran sy’n debyg i wenyn mêl. Mae gan yr Eristalis arbennig hon gorff hir a’i nodwedd amlycaf yw bod ei dwy set gyntaf o goesau yn felyn. Mae i’w gweld o’r gwanwyn tan ddiwedd yr haf mewn amrywiol gynefinoedd o dir porfa i erddi. Fel mwyafrif o bryfed hofran, maent i’w gweld yn aml ar flodau agored planhigion yn nheulu’r moron, fel efwr a llysiau’r angel.