24 Gorff 2020

Peilliwr y dydd #5 – Gweirlöyn y ddôl (Maniola jurtina)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Y rhywogaeth hon yw un o’n pili-palaod mwyaf cyffredin, ac mae niferoedd ohonyn nhw i’w gweld yn hedfan o gwmpas Cae Trawsgoed ar ddiwrnodau heulog. Y smotiau llygad a’r darnau oren ar flaen yr adain yw unig nodweddion arbennig  y rhywogaeth hon, sy’n ei gwahaniaethu oddi wrth y pili-palaod brown eraill.  Mae’r pili-pala hwn yn bwyta amrywiol fathau o borfa pan fydd yn lindys, yn enwedig peisgwellt a maeswellt a gweunwellt. Yn oedolion maen nhw’n bwyta neithdar o amrywiol blanhigion, gan gynnwys ysgall, y bengaled a mieri.