20 Gorff 2020

Peilliwr y dydd #2 – Gwenynen rychiog oren (Halictus rubicundus)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae gan y wenynen fach unigol hon stribed o flew gwyn ar draws ei bol a choesau oren. Mae’n disgyn y aml ar flodau ac mae’n well ganddi deulu llygad y dydd, fel ysgall a’r bengaled. Gwelir hon mewn amrywiol gynefinoedd gan gynnwys gerddi a thir porfa. Mae’n un o’r ychydig wenyn unigol sy’n ymddwyn yn eu-gymdeithasol, ond mae hi’n llawer llai amlwg na chacwn. Mae’r gwenyn parasitig Sphecodes gibbus a S. monilicornis yn byw ar y wenynen hon fel parasitiaid.