20 Gorff 2020

Peilliwr y dydd #1 – Bwrned pum smotyn (Zygaena trifolii)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae’n hawdd camgymryd y gwyfyn du a choch arbennig hwn am bili-pala. Mae’n hedfan yn ystod y dydd drwy gydol Gorffennaf ac Awst, ac mae’n niferus iawn yn ein dolydd eleni. Mae’r lliwiau amlwg yn rhybuddio ysglyfaethwyr ei fod yn wenwynig, ac yn rhyddhau hydrogen syanid os ymosodir arno. Mae’r larfa’n bwydo ar blanhigion yn nheulu’r bysen, fel pys y ceirw (Lotus spp.). Mae yna ddwy rywogaeth arall sy’n debyg iawn, sef y bwrned chwe smotyn a’r bwrned pum smotyn ymyl gul, ac mae’n ddigon hawdd eu camgymryd am y rhywogaeth hon.