31 Gorff 2020

Gwirfoddolwr am Natur

Laura Davies

Helpu’r amgylchedd a lles pobl eraill – ydy hyn yn rhywbeth yr hoffech chi fod ynghlwm ag ef? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n awyddus i agosáu at fyd natur a helpu eraill i wneud yr un fath. Mae’r prosiect cyffrous hwn, Caru Natur Cymru, yn chwilio am gymorth er mwyn ehangu ar wagleoedd gwyrdd yn ardal Bae Abertawe.

Ein nod yw trawsnewid ardaloedd allanol a danddefnyddir yn fannau llawn bywyd gwyllt a bioamrywiaeth y gall pobl eu mwynhau er budd eu lles meddyliol. Mae’r gwagleoedd gwyrdd yma ar safleoedd byrddau iechyd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i fonitro effaith y mannau gwyrdd newydd.

Ymysg rhai o’r gweithgareddau mae:

  • Creu ardaloedd i flodau gwyllt
  • Plannu coed a phlanhigion Cymreig sydd o dan fygythiad
  • Creu cartrefi i fywyd gwyllt
  • Cynnal arolygon maes o fywyd gwyllt a phlanhigion
  • Cyfrannu at ddigwyddiadau a dennu diddordeb y cyhoedd
  • Creu llwybrau cerdded ac ardaloedd ymlacio

Nid yw profiad blaenorol yn ofynnol, felly mae hwn yn gyfle dysgu i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt, cadwraeth ac effaith natur ar les. Bydd cyfleoedd i wirfoddolwyr rheolaidd ymgymryd â chyrsiau hyfforddi yn ogystal.

Bydd gwirfoddolwyr rheolaidd yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim gyda Gwobr Datblygu Sgiliau Caru Natur Cymru.

Mae’r wobr yn cynnig hyfforddiant ar ystod eang o bynciau, a hynny o gefnogi cadwraeth natur, i sgiliau sy’n gwella eich rhagolygon o ran gyrfa, i dechnegau i wella llesiant.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: biophilicwales@gardenofwales.org.uk