Wrth i’r nosweithiau gau amdanom, mae dail melyn cyntaf yr hydref yn dechrau ymddangos. Fodd bynnag, mae diwedd yr haf yn dal i ddarparu arddangosfeydd ysblennydd o liw.
Mae rhostiroedd yn cael eu trawsnewid gan borffor dwfn y grug a’r eithin melyn llachar, gan wneud i’n hucheldiroedd ddod yn fyw o wenyn a gloÿnnod byw.
Mae’r bengaled yn tra arglwyddiaethu yn y dolydd ddiwedd yr haf, ond mae pennau siglog bara’r cythraul yn eu bwrw i’r cysgod mewn glaswellt llaith a chorsydd.
Cadwch lygad am fotasau’r gog ar hyd ymylon y ffyrdd – dyma un o’r blodau gwyllt brodorol tlysaf o bell ffordd.
Criafol a mwyar duon yw’r ffrwythau cyntaf i’w gweld ar hyd y gwrychoedd, ac maent yn cychwyn tymor y cynhaeaf mewn modd pwyllog.
Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i rai o’r blodau gwyllt mwyaf cyffredin a hardd y gallwch ddod o hyd iddynt yn ystod mis Mehefin, a gallwch ei lawrlwytho isod. Gyda digonedd o flodau gwyllt o gwmpas ‘nawr, mae hwn yn amser rhagorol i ymarfer eich sgiliau adnabod.
Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ganllawiau trwy gydol y flwyddyn, ac yn rhoi mwy o awgrymiadau i’ch helpu â’ch sgiliau adnabod.
Mae croeso i chi dagio @BiophilicWales neu @WatersElliot i luniau o flodau gwyllt ar Twitter yr ydych wedi’u gweld neu y mae arnoch angen help i’w hadnabod!
Lawrlwytho: Canllaw i Flodau Gwyllt Mis Awst