22 Meh 2020

Taith Bywyd Gwyllt yr Haf – ewch am daith 2km o gwmpas yr Ardd

Bruce Langridge

Pellter: 2km

Calorïau: 130 -150

Camau: 2500-2800

Nodweddion Arbennig: Bywyd gwyllt, llynnoedd prydferth, cerfluniau, gwelyau planhigion

Addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio er y gall y rhan ar draws Cae Trawsgoed fod yn fwdlyd. Awgrymir gwisgo esgidiau addas i’r awyr agored

Oherwydd firws Covid-19, rhai ichi gadw pellter o 2m rhyngoch chi ac unrhyw un nad yw’n aelod o’ch cartref.

Gan gychwyn wrth fynedfa’r Porthdy, dilynwch y saethau melyn .  Byddwch yn dod ar unwaith at Bwll yr Ardd ar y dde. Yn rheolaidd fe welwch hwyaid gwyllt, mursennod ac ieir y dŵr yma, ond ers ychydig flynyddoedd mae’r dyfrgi i’w weld yn rheolaidd, hyd yn oed yn ystod y dydd.

Byddwch yn mynd heibio i gylch o goed tal o gwmpas cerflun  dŵr. Coed cochion yw’r rhain, math y credid ei fod wedi diflannu tan 1948, pan ddaethpwyd o hyd i rywogaeth o goed gwyllt yn Tsieina.  Mae’n tyfu’n eithriadol o gyflym.

Pan gyrhaeddwch y Cylch Penderfynu, y rhaeadr gwaith carreg ar ffurf ffosil amonit, trowch i’r dde a dilynwch y llwybr ar hyd ymylon y ddau lyn. Sylwch ar y Bog Garden ar y dde – cafod hon ei hadfer yn hardd iawn yn ystod y gaeaf 2019/20.

Byddwch yn mynd heibio i welyau blodau sydd â haen o ddarnau o lechi Cymreig drostynt,  a lawnt gynt sydd wedi ei throi’n ddôl blodau gwylltion.  Sylwch ar yr amrywiaeth helaeth o wenyn, pryfed hofran a phili-pala sy’n bwydo ar yr holl flodau hyn. Mae gwyddonwyr yr Ardd, gyda chymorth nifer o wirfoddolwyr,’ wedi bod yn dilyn y pryfed peillio penodol syn ymweld â pha flodau. Mae llawer o’r gwaith ymchwil hwn wedi’i gynnwys yn y llyfr Garddio ar gyfer Peillwyr sydd i’w weld yma.

Hwyrach y gallech geisio plannu rhai o’r planhigion sydd fwyaf deniadol i beillwyr yn eich gardd chi.

Gall yr adar fod yn wirioneddol amrywiol yma, ond un o’r uchafbwyntiau yw’r gnocell werdd, yn disgyn yn sydyn i chwilio am forgrug, sydd â’u twmpathau i’w gweld o gwmpas yr  Ardd Wyllt  Uwchben mae’n ddigon posibl y clywch alwad drist y barcud a’r bwncath, yn aml yn cael eu herlid gan heidiau o frain.

Dilynwch y llwybr i fyny’r rhiw heibio i gerflun y Tarw Du Cymreig gan y cerflunydd Sally Matthews o Lanfair-ym-muallt.  Bydd Gwartheg Duon Cymreig yn aml yn pori yn y cae ar y dde, Cae Blaen.

Dilynwch yr arwyddion i mewn i Goed y Tylwyth Teg. Byddwch yn mynd heibio i rai cerfluniau pren mawr hardd o ffwng amanita’r gwybed a ffwng boned gan fod hwn yn un o’r mannau gorau i chwilio am ffwng y coedydd.  Fel rheol maen nhw’n dechrau ymddangos yma ar ddiwedd yr haf. Gallech sylwi ar ychydig nodweddion sy’n awgrymu bod tylwyth teg yn byw yma hefyd.

Wrth ddod allan o’r coed dilynwch y saethau melyn ar draws y cae a elwir yn Gae Trawsgoed . Yn yr haf mae’r ddôl hon yn llawn blodau gwylltion sy’n cynnwys pedwar math o degeirian gwyllt. Nid oedd yr un o’r rhain yn tyfu yma nes inni ddechrau rheoli’r cae hwn fel gweirglodd yn 2000.  Dydyn ni ddim yn ychwanegu dim ac yn torri unwaith y flwyddyn yn unig, yn ddiweddar yn y tymor. Rydyn ni wedi dechrau casglu hadau blodau gwylltion o’r cae hwn a byddwn yn eu gwerthu.

Trefnwch gael y cylchlythyr Tyfu ar gyfer y Dyfodol i weld pryd fydd yr hadau ar gael.

Wrth ichi wneud eich ffordd ar draws y ddôl at gât fferm, edrychwch am arwyddion o foch daear – maen nhw’n aml yn crafu haen uchaf y pridd i ffwrdd i chwilio am bryfed ac yna’n gwneud tyllau bach i’w defnyddio fel toiled.

Trowch i’r chwith i lawr yr hen lôn a’i blodau gwylltion. Mae’r ôl dannedd ar y coed cyll ar y coed ar y lôn hon yn arwydd sicr fod y pathew prin a swil iawn yn byw yn y coed ar hyd y lôn.  Chwiliwch am gnau sydd â thwll crwn llyfn ar yr ochr, ac olion dannedd o gwmpas tu mewn i’r twll. Os yw’r gneuen wedi ei hollti yn ei hanner, yna mae’n debyg mai gwiwer sydd wedi ei bwyta.

Wrth i’r lôn ddod i ben, anelwch at yr hen adeilad gwyn o’ch blaen – y Cwrt Stablau. Fel rheol byddai hwn yn fan gwych i fwynhau cinio haeddiannol iawn – rydych wedi cerdded 2km wedi’r cyfan. Ond mae ein lle bwyta, y siop a’r oriel gelf yma ar gau, yn anffodus  oherwydd y pandemig Covid-19.

Ydych chi’n teimlo’n dda? Dwedwch wrthym sut mae’r daith hon wedi gwneud ichi deimlo’n dda drwy roi sylw yma neu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

https://www.facebook.com/GardenofWales