30 Meh 2020

Rhagor o neithdar yn arwydd o amseroedd hapusach yn y wenynfa

Martin Davies

Yn dilyn stormydd a glaw a tharanau’r wythnos flaenorol, mae’r Ardd wedi cael ei dyfrio’n dda a’r neithdar yn dechrau llifo.

Mae’r gwenyn wedi bod yn chwilota ar yr helyglys hardd, a’r mieri’n doreithiog eu blodau.

Roedd hyn yn amlwg iawn yr wythnos hon, felly mae’r pryder am y diffyg storfeydd wedi diflannu, o’r diwedd!

Roedd yn rhaid rhoi blychau ychwanegol ar lawer o’r cychod gwenyn er mwyn galluogi’r gwenyn i droi’r neithdar yn fêl.

Yng Ngardd y Gwenynfeydd, roedd y planhigion wedi tyfu’n sydyn yn ddiweddar, a’r lle’n dechrau edrych yn fwy tebyg i jyngl, felly rhaid oedd gweithredu. Aethom ati ben bore gan fod y rhagolygon yn dweud y byddai’r tywydd yn troi’n eithriadol o chwilboeth. Cwblhawyd y strimio erbyn 7.30am, a gadawyd i’r gwenyn dawelu cyn i’r archwiliadau o’r gwenynfeydd ddechrau.

Nid yw gwenyn yn rhy hapus yn sŵn na dirgryniad y strimiwr, felly mae’n well gwneud y tasgau hyn yn gynnar iawn (neu’n hwyr iawn) yn y dydd i achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

Rwy’n falch o ddweud bod y cychod gwenyn yn y brif wenynfa, a oedd wedi ymddangos braidd yn araf yn cronni, bellach yn mynd yn ôl ar y trywydd iawn ac yn edrych yn addawol.

Yn y Wenynfa Wyddoniaeth, roedd y breninesau newydd a welwyd yr wythnos flaenorol, ac yr oeddwn wedi bwriadu eu marcio, yn anodd eu dal y tro hwn. Wrth i’r diwrnod boethi, roeddent yn ffoi i gilfachau tywyll y cwch gwenyn cyn y gallwn eu dal. Fy holl gynlluniau da, ac ati. Gobeithio y byddaf yn llwyddo i’w dal y tro nesaf!

A ninnau’n agosáu at ddiwedd mis Mehefin, dylai’r rhan fwyaf o’r nythfeydd fod wedi mynd heibio eu cyfnod heidio ac yn llawn gweithgarwch.

Wrth i ni gamu i mewn i fis Gorffennaf, bydd y breninesau newydd sydd wedi paru ac yn dechrau dodwy yn cael eu gwerthuso i weld a ydynt yn y cyflwr gorau, a bydd cynlluniau’n cael eu gwneud i uno nythfeydd neu ailgyflwyno breninesau mewn nythfeydd eraill wrth i’r tymor fynd rhagddo.

Er hynny, efallai y bydd y nythfeydd a gafodd grwybr cwbl newydd ddechrau’r flwyddyn yn dal i benderfynu cynyddu, felly bydd yn rhaid i ni fod ar flaenau’n traed o hyd, a chadw llygad arnynt am arwyddion mwy diweddar o heidio.

Gan nad yw gweithio gyda gwenyn ar 30 gradd Celsius yn cael ei argymell, y gorchymyn ar gyfer y dydd oedd yfed digon o ddŵr ac aros yn y cysgod gymaint â phosibl. Rwy’n falch fy mod wedi dechrau arni yn y bore bach.

Lynda Christie

25 Mehefin 2020