18 Meh 2020

Gwenynwraig yr Ardd – Lynda Christie

Bruce Langridge

Does dim llawer o wenynwyr proffesiynol yng Nghymru, ond mae un gennym yma yn yr Ardd.  Lynda Christie yw hi, ac mae ei diddordeb maith mewn gwenyn mêl wedi mynd â hi ar hyd llwybr gyrfa anarferol.

Ble cawsoch chi’ch magu? 

Dwyrain Llundain.

Beth ddaeth â chi i Gymru?

Symud i’r wlad, a meddwl am y “bywyd da”.

Sut datblygodd eich diddordeb mewn gwenyn mêl?

Rwyf wedi bod yn arddwr brwd erioed, a pha oeddwn yn byw yn Essex euthum i glywed sgwrs gan wenynwr gyda grŵp Garddwriaeth. Ysbrydolodd hynny fi i fynd at y Gymdeithas Gwenynwyr yn lleol, a dyna ddechrau’r cyfan.

Pa fath o hyfforddiant gawsoch chi i ddod yn wenynwr?

Roeddwn wedi bod ar gyrsiau gyda Chymdeithas Gwenynwyr Southend yn Essex, cwblhau asesiad Sylfaenol BBKA a dechrau modiwlau cadw gwenyn gradd Meistr cyn dod i Gymru. Rwyf wedi bod ar gyrsiau Diploma Cenedlaethol ar Gadw Gwenyn, ac yn ddiweddar rwyf wedi dechrau grŵp gyda’n Gwenynwyr yn yr Ardd Fotaneg  i barhau’r modiwlau Meistr mewn Cadw Gwenyn. Ond yr hyfforddiant gorau yw profiad ymarferol, gan weithio gyda’r gwenyn a monitro gwenynwyr a dechreuwyr

Ydych chi bob amser wedi gweithio fel gwenynwraig?

Rwyf wedi dilyn nifer o wahanol yrfaoedd, o Fancio Masnachol i fod yn athro Mathemateg mewn ysgolion uwchradd (a chynnal tair canolfan gwenyn yn Essex) cyn ymuno â’r Ardd Fotaneg yn 2008. Ar y cychwyn roeddwn yn gwirfoddoli yn yr Ardd Wenyn gan weithio mewn swyddi eraill, a nawr rwy’n Wenynwraig Amser Llawn ac yn rheolwraig ecosystemau drwy’r prosiect Tyfu’r Dyfodol.

Allwch chi amlinellu beth yw eich prif swyddogaethau wrth weithio yn yr Ardd?

Rwy’n gyfrifol  am dair canolfan gwenyn yn yr Ardd gyda chymorth grŵp o wirfoddolwyr, ac yn rhoi hyfforddiant mewn crefftau eraill ac mewn cynadleddau.

Rydych newydd eich penodi’n Gadeirydd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru (WBKA) ym mis Mawrth. Beth mae hynny’n ei olygu?

Mae hyn yn fraint gan fy mod yn edmygu gwaith y Gymdeithas yng Nghymru yn fawr iawn. Rwy’n dal i ddod yn gyfarwydd yn y swydd, sef darparu arweiniad i’r pwyllgor rheoli i sicrhau ei fod yn cyflawni ei gyfrifoldebau dros redeg WBKA. Rwy’n gadeirydd ar gyfarfodydd y tîm rheoli a’r Cyngor gan weithio ar y cyd â’r ymddiriedolwyr  yn cefnogi’r swyddogion i gyflawni nodau ac amcanion WBKA.

Rwyf hefyd yn cynrychioli WBKA mewn digwyddiadau allanol eraill a chyfarfodydd i’w helpu i gyrraedd ei hamcanion, ac i wella’i enw da fel corff cefnogi cenedlaethol i wenynwyr yng Nghymru.

Oes gennych chi hoff blanhigyn neu ran o’r Ardd?

Mae yna ormod o rannau godidog o’r Ardd i ddewis dim ond un. Rwy’n hoffi’r ffordd mae’r Ardd yn newid drwy’r tymhorau, ac rwyf wedi ei gweld yn datblygu dros y blynyddoedd. Rwy’n ceisio mynd i’r Ardd bob dydd i edrych o gwmpas hyd yn oed am ysbaid fer: mae’n dda i’r enaid.

Yn olaf, allwch chi ddweud rhywbeth amdanoch eich hun a fyddai’n synnu pobl sy’n eich adnabod?

Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi teithio o gwmpas yn y fan gysgu, dod o hyd i leoedd newydd a difyr, mynd ar deithiau hir gyda’r ci, ond rhaid iddyn nhw fod yn deithiau cylch os yw’n bosibl er mwyn i fi gael golygfa wahanol ar y ffordd yn ôl! Mae fy anifeiliaid i gyd yn rhai wedi eu hachub.  Tan yn ddiweddar roedd gennyf dri chi (dim ond un erbyn hyn yn anffodus) a chath lwyd heb gynffon ac wyth iâr fatri wedi’u hachub.