4 Meh 2020

Cadw llygad barcud ar ein gwenynfa sentinel

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae’r brif wenynfa yn yr Ardd wedi’i chofrestru fel gwenynfa sentinel gyda’r Uned Wenyn Genedlaethol (NBU), sy’n chwilio am blâu a chlefydau trofannol mewn nythfeydd gwenyn mêl.

Ddwywaith y flwyddyn o leiaf, rydym yn anfon samplau llawr i’r NBU i asesu am glefydau gwenyn. Yn ystod yr archwiliad diwethaf, gosodais y lloriau priodol ym mhob cwch gwenyn i gasglu’r malurion. Mae hyn hefyd yn fodd i wirio a oes yna widdonyn Varroa yn cronni ar y nythfeydd.

Mae gwiddon Varroa yn gweithredu fel fectorau ar gyfer pob math o feirysau a chlefydau mewn gwenyn mêl, felly mae’n ddoeth cadw’r lefelau mor isel â phosib er mwyn galluogi’r gwenyn i ffynnu.

Felly, yr wythnos hon, roedd yr archwiliadau’n canolbwyntio ar chwilio am glefyd neu unrhyw beth anarferol sy’n digwydd yn y cychod gwenyn. Archwiliwyd pob bwrdd llawr am widdon Varroa, a chwiliwyd trwy’r malurion ar y llawr i weld a oedd yna unrhyw beth yn wahanol i’r disgwyl.

Rwy’n falch o adrodd bod y cyfrif gwiddon yn sero ar gyfer y rhan fwyaf o’r cychod gwenyn, a bod gan un nythfa yn unig gyfrif gwiddon dyddiol o 2. Gellir cymharu’r cyfrif gwiddon hwn â thabl ar wefan BeeBase, a hynny er mwyn asesu a oes angen cynnal unrhyw driniaeth neu gymryd unrhyw gamau. Gan fod y cyfrif mor isel, nid oes unrhyw beth i’w wneud ar hyn o bryd; er hynny, byddaf yn cadw golwg ar yr un cwch gwenyn hwn, er mai dim ond ychydig oedd ynddo.

Archwiliwyd mag pob cytref yn ofalus i sicrhau nad oedd yna unrhyw arwydd o glefyd mag.
Roedd lliw da ar y capiau ac roedd y celloedd mag wedi’u gorchuddio’n daclus. Fodd bynnag, roedd arwyddion o fag calch yn rhai o’r cychod gwenyn, ond roedd y gwenyn wrthi’n glanhau hwn.

Fel rheol, nid oes gennym broblem yn yr Ardd o ran mag calch, ond roedd wedi bod yn aeaf gwlyb iawn ac mae’n bosibl bod hyn wedi hwyluso crynhoad y ffwng sy’n achosi mag calch, efallai? Nid wyf yn poeni am hyn, serch hynny, gan fod y gwenyn yn ymddangos fel pe baent yn hylan iawn ac yn mynd ati i’w lanhau.

Yr unig dresmasiad y deuthum ar ei draws oedd ychydig o bryfed clust digywilydd yn rhigolau’r mewnosodiadau yn y llawr.

Unwaith eto, fel y tro diwethaf, cafwyd cipolwg ar bron yr holl freninesau neu wyau, a chafodd pob cwch gwenyn ei archwilio am storfeydd.

Fel y rhagwelais gyda’r holl dywydd sych yr ydym yn ei gael, roedd y storfeydd neithdar yn is na’r disgwyl. Roedd y gwenyn yn hedfan yn dda ac yn brysur iawn ar y mafon gwyllt ger y brif wenynfa.

Mae yna lawer o blanhigion gwyllt ac amaethyddol sydd yn eu blodau, llawer o baill yn mynd i mewn i’r cychod gwenyn, ond dim llawer o neithdar.

Wrth i ni gyrraedd mis Mehefin, byddaf yn cadw llygad barcud ar lefel y storfeydd gan y gallem brofi ‘bwlch mis Mehefin’. Rwy’n gobeithio y bydd y mieri, sydd yn eu blagur, yn blodeuo cyn bo hir ac y gallwn ymlacio eto, oherwydd fel arfer dyma lle rydym y cael ein prif lif mêl.

Lynda Christie
28 Mai 2020