18 Mai 2020

Ymrwymwch i Gadw Golwg am Gacwn. Mae ar eich peillwyr eich angen!

Martin Davies

Dylai pob un ohonom boeni am gacynen Asia.

Mae’n ysglyfaethwr effeithlon iawn sy’n hela gwenyn mêl a phryfed eraill sy’n peillio. Nid oes gan ein gwenynen fêl frodorol – Apis Mellifera – unrhyw amddiffyniad wrth wynebu’r ysglyfaethwr estron hwn, yn wahanol i wenynen fêl Asia – Apis Cerana – sydd wedi datblygu strategaethau i wrthsefyll y bygythiad.

Gallai’r cyflenwad o wenyn mêl a phryfed peillio gael ei ddifrodi pe byddai cacynen Asia yn ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig, a gallai hynny effeithio’n fawr ar fioamrywiaeth ein cefn gwlad a’n hardaloedd trefol.

Pryd y cyrhaeddodd cacynen Asia y Deyrnas Unedig?

Cyrhaeddodd Ffrainc yn 2004, ac mae wedi lledaenu ledled y wlad, gan symud ymlaen i Sbaen a Phortiwgal ac, yn 2016, cafodd ei gweld am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

Cafwyd 17 o achosion pendant yn Lloegr oddi ar 2016, gyda’r nythod yn cael eu difa. Bu achosion yng Ngwlad yr Haf, Swydd Gaerloyw, Dorset, Cernyw a Chaint, gydag un sbesimen, hyd yn oed, yn yr Alban. Ni fyddai y tu hwnt i amgyffred rhywun dychmygu y gallai ymddangos yng Nghymru hefyd.

Rhybudd i Wenynwyr

Os na chafodd pob nyth ei ddarganfod yn ystod y tymor blaenorol, gall nyth aeddfed ryddhau 200-300 o freninesau newydd yn yr hydref. Daw breninesau sy’n gaeafu allan o’u gaeafgwsg yn y gwanwyn, felly ‘nawr yw’r amser i fod ar eich gwyliadwriaeth. 

Mae angen i wenynwyr eu hatgoffa eu hunain o’r gwahaniaethau rhwng cacwn a gwenyn meirch brodorol a rhai anfrodorol – lawrlwythwch boster yr NNSD i gael rhagor o wybodaeth.

Gwelwyd yr achos cyntaf yn 2020 yn St Brelade, ar ynys Jersey ym mis Chwefror, a, hyd yma, mae pedwar nyth wedi cael eu difa.

Mae gan y cyhoedd ran i’w chwarae hefyd

Os bydd aelod o’r cyhoedd yn gweld pryfyn anarferol y mae’n meddwl y gallai fod yn gacynen Asia, gall helpu.

Mae nythod cacwn Asia yn debyg iawn i nythod ein gwenyn meirch brodorol. Maent yn dechrau ar ffurf nyth bach, crwn, tua maint pêl golff, gydag ychydig o gelloedd yn y canol; fodd bynnag, gallant dyfu i faint pêl droed neu bêl lan môr pan fyddant wedi aeddfedu.

Mae prif nythod cacwn Asia wedi cael eu darganfod yn uchel mewn coed, ond cafwyd rhai achosion o nythod mewn cloddiau, mewn gerddi ac mewn gwrychoedd. Mewn ardaloedd trefol, gellir dod o hyd i nythod mewn ceudodau mewn waliau, mewn toeon ac mewn siediau. Y prif nod yw eu hadnabod yn bendant a chysylltu â’r arbenigwyr i gael cadarnhad ac i’w symud oddi yno.

Os bydd eich ffôn gennych, tynnwch lun i’ch helpu i adnabod y pryfyn amheus; nodwch y lleoliad ond peidiwch ag aflonyddu ar y nyth os byddwch yn dod ar ei draws. Gall gwenyn meirch a chacwn roi pigiad cas os aflonyddir ar eu nythod.

Anfonwch fanylion i Gyfarwyddiaeth y Rhywogaethau Anfrodorol (NNSD – Non Native Species Directorate) yn alertnonnative@ceh.ac.uk Dylai gwenynwyr gysylltu â chydgysylltydd eu tîm Asian Hornet Action (AHAT) lleol yn un o gymdeithasau Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, a fydd yn helpu i gadarnhau ai cacwn Asia ydynt ai peidio. Os byddwch yn cael cadarnhad o hyn, cysylltir â’r arolygwyr gwenyn yn yr Uned Wenyn Genedlaethol (NBU), sydd wedi’u hawdurdodi i ddelio â’r broblem.

Bygythiadau eraill i wenynwyr gadw golwg amdanynt

Fel yn achos unrhyw un sy’n gofalu am dda byw, mae gwenynwyr yn cadw golwg am blâu a chlefydau a allai effeithio ar eu nythfeydd. Dyma pam yr ydym yn dadlau dros gynnal archwiliadau rheolaidd o nythfeydd trwy gydol y tymor, yn ogystal ag archwiliadau rheolaidd i nodi clefydau.

A ydych yn sylwi ar unrhyw beth anarferol? Gallai’r arwyddion gynnwys gwenyn sy’n ysgwyd ac sy’n gwrthod mynd i lawr at y crwybr, hyd yn oed wrth i chi ddefnyddio mwg, arogl anarferol pan fyddwch yn agor cwch gwenyn, neu gapiau seimlyd yn ardal y fag. Gallai’r rhain fod yn arwyddion o feirws parlys gwenyn cronig neu glefyd y gwenyn.

Rydym yn ffodus iawn yn y Deyrnas Unedig fod gennym yr Uned Wenyn Genedlaethol ac arolygwyr sydd ar gael yn ystod y tymor i ddod allan ac archwilio ein nythfeydd os byddwn yn sylwi ar broblem. Os caiff clefyd ei ddarganfod, gellir ei drin a’i ladd yn yr egin, gan atal achosion rhag lledaenu.

Rhyfeddod arall yn ystod tymor y gwanwyn

Mae’r cyfryngau wrth eu bodd yn ystod misoedd Mai a Mehefin pan fydd nythfeydd o wenyn mêl yn heidio. Mae yna straeon cyffrous am heidiau enfawr o wenyn yn cyrraedd trefi a dinasoedd ac yn brawychu’r trigolion lleol.

Mae gwenyn mêl yn tueddu i heidio bob gwanwyn i greu breninesau newydd a chynyddu’n nifer yn y nythfa. Mae gwenynwyr yn ceisio rheoli’r broses hon yn eu nythfeydd, ond weithiau byddant yn methu.

Os byddwch yn gweld haid, rhowch wybod i’ch cymdeithas gwenynwyr lleol. Mae manylion i’w gweld ar wefan Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, ac mae gan bob cymdeithas gyswllt ar gyfer casglu heidiau. Bydd gwenynwr yn cael ei anfon i’r safle i gasglu ac ailgartrefu unrhyw wenyn gwamal.

Nodyn byr: mae haid o wenyn mêl fel arfer yn ddof iawn. Maent yn chwilio am geudod i wneud cartref newydd, ond peidiwch â tharfu arnynt na cheisio delio â nhw eich hunan. Gadewch hynny i’r arbenigwyr.

Lynda Christie

12 Mai 2020