21 Mai 2020

Y peillwyr allan yn eu grym ar brynhawn heulog

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Gwenynwraig yr Ardd Fotaneg, Lynda Christie, yn darganfod bod un ac un yn gwneud pedwar yn achos gwenyn mêl!

Prynhawn hyfryd arall yng Ngwenynfeydd yr Ardd Fotaneg.
Roedd ychydig yn oer y peth cyntaf yn y bore ond, erbyn canol dydd, roedd yn 16 gradd Celsius ac yn heulwen braf. Mae hynny’n berffaith ar gyfer ein harchwiliadau.
Roedd y peillwyr i gyd allan heddiw yn chwilota yng ngerddi’r Wenynfa ac yn ardaloedd cyfagos yr Ardd Fotaneg. Mae yna gacwn ar y cyfardwf a’r ffacbys yn yr ardd wyllt; pryfed hofran ar y drain gwynion; gwenyn mêl ar y fflamgoed a’r hopys coeg – mae’n smorgasbord o hyfrydwch yn ei flodau i’r peillwyr wledda arno.
Canol mis Mai yw’r adeg ym mlwyddyn y gwenynwr pan fydd y gwenyn fel arfer yn dechrau paratoi ar gyfer cynyddu.


Gydag ychydig o brofiad a chynllunio, bydd y gwenynwr yn gobeithio achub y blaen ar y gwenyn a defnyddio dulliau rheoli heidiau, yn ogystal â rheoli’r cychod gwenyn, er mwyn rheoli’r broses o rannu nythfeydd.
Mae mor braf pan fydd popeth yn digwydd yn ôl y drefn. Hwrê!
Mae dwy nythaid yr wyf wedi bod yn eu paratoi ar gyfer eu rhannu – un yn y wenynfa ddysgu ac un yn y Warchodfa Natur Genedlaethol – wedi gwneud eu gwaith.
Maent wedi ymestyn y crwybr ac mae’r frenhines wedi dodwy digon o wyau, felly mae ganddynt ddigon o fag.


Rhoddwyd blychau mag dwbl iddynt i’w hymestyn wrth baratoi ar gyfer rhannu, ac, wrth i mi eu harchwilio heddiw, roedd yna arwyddion bod cwpanau brenhines yn dechrau cael eu llunio – yr adeg berffaith i rannu’r nythfeydd yn ddwy. Felly, bydd dau gwch gwenyn yn dod yn bedwar!
Bydd yr archwiliadau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf yn dangos a yw hyn wedi gweithio. Byddaf yn edrych i weld a yw’r breninesau a’r nythfeydd gwreiddiol wedi colli’r awydd i heidio ac wedi sefydlogi i fusnes fel arfer.
Gyda lwc, bydd y cytrefi heb frenhines yn llunio celloedd breninesau newydd. Gallaf ddewis didoli’r rhain yn un fesul nythfa er mwyn tynnu eu sylw oddi ar heidio, a magu un frenhines, neu gynaeafu’r celloedd breninesau i ffurfio rhagor o nythfeydd â chnewyllyn bach i’w meithrin trwy’r tymor. Penigamp!
Mae yna ffordd bell i fynd o hyd, ond dyma pam y mae cadw gwenyn yn gymaint o hwyl!

Lynda Christie
14 Mai 2020