8 Mai 2020

Mae gan helyg llwyd le rhamantus yn fy nghalon hefyd

Bruce Langridge

Bob hyn a hyn, bydd coeden yn gwneud rhywbeth hudolus i ddal ein sylw.

Mae’n rhaid fy mod wedi cerdded heibio’r helygen Salix cinerea lwyd hon ddwsinau o weithiau dros y blynyddoedd, ac nid oeddwn erioed wedi talu unrhyw sylw iddi.

Ond rwyf newydd ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las i fonitro cyflwr ein dolydd gwair newydd, a sylwais arni am y tro cyntaf yng Nghae Calc, llethr o dir pori eang ac agored.

Ai’r dail ffres ydoedd?

Ai siâp perffaith rhywogaeth o goeden rwyf fel arfer yn ei hystyried yn anniben?

Ai’r heulwen hardd?

Neu ai llygaid tlawd dyn a oedd wedi bod o dan gyfyngiadau symud am bedair wythnos ydoedd?

Mae gan helyg llwyd le rhamantus yn fy nghalon hefyd. Pan briodais fy ngwraig, Billie, ar 1 Mehefin 2013 yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, chwythodd cenau gwyn ysgafn o helyg llwyd ar draws ein seremoni briodas awyr agored – conffeti hardd naturiol.