27 Mai 2020

Diwrnod Gwenyn y Byd yn gwawrio i ddatgelu cychod gwenyn ffyniannus

Martin Davies

Wrth i mi gyrraedd yr Ardd Wenyn, rwyf bob amser yn cynnal archwiliad cyflym i sicrhau bod popeth fel y dylai fod, yn enwedig gan ei fod yn dymor heidio. Mae yna ychydig o wenyn sy’n dangos diddordeb yn y wal allanol, felly rwy’n ymchwilio.

Mae’r creigafal sy’n cofleidio’r wal bellach yn ei flodau, ac mae’r gwenyn wrth eu bodd! Mae’r planhigyn hwn yn fagnet ar gyfer cacwn a gwenyn mêl sy’n llwytho neithdar a phaill hufennog hyfryd i fynd yn ôl i’r cwch gwenyn.

Yn yr ardd Tyfu’r Dyfodol, mae gwenyn a pheillwyr yn chwilota ymhlith y garlleg a’r winwns ac, yn yr Ardd Wenyn, mae’n hyfryd sefyll a gwylio a gwrando ar su’r gwenyn mêl yn mwynhau’r planhigion.

Yn gynharach yn yr wythnos, roeddwn wedi sylwi bod haid fach wedi dawnsio allan o gwch gwenyn, felly es ati i’w chasglu a’i rhoi’n gnewyllyn mewn cwch gwenyn newydd.

Mae hon bellach wedi cael ei bwydo â surop i’w helpu i ledaenu a’i hannog i aros yn ei hunfan. Felly, mae archwiliadau heddiw yn canolbwyntio’n bennaf ar reoli heidiau.

Archwiliais ddau gwch gwenyn a rannwyd yr wythnos diwethaf i weld a oeddent wedi creu celloedd breninesau. Mae’n dda gweld eu bod yn dilyn y cyfarwyddiadau, gan fod yna gelloedd breninesau hardd yn y ddau. Rwy’n lleihau’r rhain i un i bob nythfa gan nad wyf am gymell y nythfeydd i daflu allan llawr o heidiau. Byddaf yn rhoi llonydd i’r cychod gwenyn hyn am tua phythefnos, er mwyn gadael i’r breninesau newydd aeddfedu a hedfan i baru.

Os bydd popeth yn mynd yn ôl y cynllun, dylem weld wyau a mag newydd pan fyddwn yn eu harchwilio eto.

Cafodd yr holl gytrefi eraill eu harchwilio’n drylwyr am unrhyw arwyddion o heidio, ac roeddent yn ymddangos yn iawn.

Yn bennaf, caiff yr holl freninesau neu wyau eu gweld, a chaiff pob cwch gwenyn ei archwilio i weld a oes yna storfeydd. Rwy’n teimlo y bydd y storfeydd yn bwysig wrth i’r nythfeydd gynyddu. Mae angen i bob nythfa gael storfeydd digonol i’w chynnal ei hun. Gallai’r cyfnod digynsail hwn o dywydd cynnes, sych beri i’r neithdar sychu, a gallai’r gwenyn ei chael yn anodd dod o hyd i borthiant. Felly, dyna rywbeth arall i gadw golwg arno.

Yr wythnos nesaf byddaf yn cynnal archwiliadau i nodi clefydau; dylid cynnal y rhain yn rheolaidd trwy gydol y tymor er mwyn sicrhau bod y gwenyn yn iach. At hynny, rwy’n dal i gadw llygad barcud ar unrhyw baratoadau ar gyfer heidio y gallai fod angen i mi ddelio â nhw.

Mae’n dda cadw’n brysur!

Lynda Christie

20 Mai 2020