16 Ebr 2020

Mae’r gwenyn – a Lynda – yn prysuro

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Yr wythnos hon, manteisiais ar y tywydd hyfryd i gynnal archwiliadau gwanwyn llawn o bob un o dair gwenynfa’r Ardd, yn ogystal ag un wenynfa ‘allanol’ wedi’i lleoli ger Brechfa.

Roedd y gwenyn yn hedfan yn dda iawn. Mae llawer o blanhigion gwanwyn yn eu blodau erbyn hyn, ac mae digon o baill yn mynd i mewn i’r cychod gwenyn. Mae’r dant y llew yn edrych yn arbennig o doreithiog, sy’n newyddion da i beillwyr.

Lle bo angen, mae darnau pren pob cwch gwenyn wedi cael eu tynnu, a blychau, lloriau, toeau, caeadau a rhwyllau atal breninesau ffres, glân wedi cael eu gosod yn eu lle.

Mae cribau mag rhai o’r cytrefi cryf wedi cael eu hadnewyddu trwy’r dull ‘ysgwyd haid’. Mae hon yn ffordd dda o adnewyddu hen grib, lleihau nifer y gwiddon varroa ac atal clefydau.

Daethpwyd o hyd i’r rhan fwyaf o’r breninesau a’u marcio, os nad oeddent eisoes wedi cael eu marcio yn y tymor blaenorol.
Cafodd rhai o’r cytrefi llai hwb gan gytrefi eraill yn yr un gwenynfeydd, a hynny trwy roi fframiau mag o gytrefi iach ynddynt ac ysgwyd gwenyn nyrsio i mewn i ofalu am y mag. Gobeithio y bydd hyn yn helpu’r cytrefi hyn i gynyddu a ffynnu.

Roedd hynny’n waith caled ond cefais dipyn o foddhad o’i gwblhau. Mae gweithio gyda’r gwenyn yn yr Ardd Fotaneg yn rhoi pleser mawr i mi. Gobeithio y bydd y tywydd hyfryd hwn yn parhau er mwyn galluogi i’n cytrefi wneud cynnydd da ar gyfer y tymor sydd i ddod.

Rwyf wedi rhoi’r offer budr a holl rannau budr y cychod gwenyn i’r naill ochr yn barod i’w glanhau a’u sterileiddio fel y gellir eu hailddefnyddio yn nes ymlaen yn y tymor pan fyddwn yn cynyddu.

Bydd y cwyr yn cael ei dynnu o’r hen fframiau a’i rendro, a bydd y fframiau’n cael eu glanhau yn barod ar gyfer sylfaen newydd. Gall hyn gael ei wneud ar ddiwrnod glawog ond, yn y cyfamser, mae angen i ni fwynhau’r cyfnod hwn o dywydd braf tra bydd yn para.

Lynda Christie