20 Ebr 2020

Dechreuwch Gofnodi Bywyd Gwyllt Yn Eich Gardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae gerddi yn gynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt, yn darparu cysgod a lloches. Nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r ffaith bod holl arwynebedd gerddi’r DU yn fwy nag y cyfanswm o’r holl Warchodfeydd Natur Genedlaethol ni – sy’n meddwl os bydden ni i gyd yn edrych ar ôl ein darn bach ni, bydden ni yn cyfrannu at gefnogi bioamrywiaeth. Mae yna lawer o bethau y gallwch chi wneud yn eich gardd i annog bywyd gwyllt sef creu lawnt sy’n dda i fywyd gwyllt, plannu ar gyfer peillwyr, bwydo adar, creu pwll – mae’r rhestr yn enfawr!

Unwaith yr ydych chi wedi annog bywyd gwyllt i’ch gardd, beth nesaf? Mae cofnodi bywyd gwyllt yn bwysig dros ben, ac ni fyddem ni yn gallu monitro tueddiadau’r rhywogaethau dros gyfnod hir heb hwn. Mae hyd yn oed yn bwysig i gofnodi’r pethau cyffredin, oherwydd fel arfer nhw yw’r dangoswyr gorau o newid. Mae nawr yn amser grêt i ddechrau cofnodi bywyd gwyllt, o ganlyniad i’r holl amser rydym yn gwario gartref a’r newid yn y tywydd.

Byddwch chi yn synnu at faint o bethau y gallwch ddarganfod unwaith chi’n dechrau edrych. Mae’r entomoleg-wraig Dr Jennifer Owen yn enwog am gofnodi rhestr enfawr o 2,673 rhywogaeth yn ei gardd hi yng Nghaerlŷr oedd yn 741 metr sgwâr dros 30 mlynedd. Bu hwn yn cynnwys dros 450 rhywogaeth o blanhigion, bron 2,000 rhywogaeth o bryfed, dros 50 rhywogaeth o adar a saith rhywogaeth o famal. Hynod o aruthrol! Bydd y rhan fwyaf o bobl ddim gyda’r amser neu’r profiad i gofnodi mor ddwys, ond mae’n esiampl grêt o ba mor amrywiol gall gardd fod.

I helpu chi dechrau, rwyf wedi creu taflenni dechreuwr dwyieithog o rywogaethau cyffredin a nodedig o wenyn, pryfed hofran, pili-palod a gwyfynod byddwch chi o bosib yn darganfod yn eich gardd. Er bod y rhain ddim yn dangos y rhywogaethau Prydeinig i gyd, y nod yw ddechrau dysgu beth i edrych am. Gallwch chi brintio’r rhain a nodi pa rywogaethau yr ydych chi yn gweld – mae’n weithgaredd da i wneud gyda phlant.

Cliciwch yma i lawr lwytho’r pedair taflen.

Dylech chi nodi beth welsoch chi, pryd y gwnaethoch chi ei weld, a ble roeddech chi (cyfeirnod grid chwe ffigur yw’r gorau – gallwch lawr lwytho ap sy’n rhoi hwn i chi) a dylid hwn cael ei gofnodi ar  iRecord. Mae cofnodion gyda llun wedi’i ategu yn fwy dibynadwy na rhai heb lun. Ceisiwch dynnu cymaint o luniau ag y gallwch felly os ydych chi ddim yn siŵr, gall arbenigwr helpu chi. Croeso i chi dagio fi mewn unrhyw luniau o bryfed ar Drydar @abigailjayne26. O ran grŵpiau arall, mae yna nifer o grŵpiau ar Facebook gydag arbenigwyr ar law i helpu.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am grŵp penodol, mae yna lyfrau arbenigol sy’n cwmpasu’r rhywogaethau Prydeinig i gyd neu’r mwyafrif. Gweler isod esiampl am bob grŵp rwyf wedi gwneud taflen am:

Gwenyn: Field Guide to the Bees of Great Britain and Ireland – Falk & Lewington

Pryfed Hofran: Britain’s Hoverflies – Ball & Morris

Gwyfynod: Field Guide to the Moths of Great Britain and Ireland – Waring, Townsend & Lewington

Pili-palod: Pocket Guide to the Butterflies of Great Britain and Ireland – Lewington