Mae yna ddigon o arwyddion calonogol yn y cychod gwenyn heddiw.
Gobeithio y gallwch weld y frenhines dywyll – wedi’i marcio’n wyrdd – yn agos at waelod y ffrâm yn un o’r lluniau.
Mae’r ddelwedd hon hefyd yn dangos storfeydd wrth yr ymylon a phatrwm hyfryd y mag yn y canol, sy’n arwydd da ar gyfer dechrau cynyddu niferoedd yn y gwanwyn.
Roedd y rhan fwyaf o’r cychod a archwiliwyd heddiw mewn cyflwr da, yn ôl y disgwyl, gyda dau yn unig yn edrych yn wannach nag y byddwn wedi ei ddymuno.
Felly, byddaf yn cadw llygad barcud ar y ddau hyn, rhag ofn y bydd arnynt angen rhagor o help i lwyddo.
Mae llawr o baill melyn llachar y cael ei gasglu. Rwy’n amau bod hwn yn dod o’r llygaid Ebrill.
Roedd gan rai o’r cychod eraill baill melyn golau ac oren ynddynt, a oedd, o bosibl wedi dod o’r coed helyg a’r saffrwn.
Mae paill yn ddangosydd da fod y gwenyn yn gwneud bwyd mag i fagu eu hepil. Gwelwyd digon o fag ar bob cam heddiw: wyau, larfau a mag wedi’i selio.
Felly, ar y cyfan, archwiliad cyntaf llwyddiannus ar gyfer y tymor newydd.
Lynda Christie