1 Rhag 2019

Y Tŷ Gwydr Mawr yn y Gaeaf – De Affrica

Bruce Langridge

Fel rhan o gyfres o flogiau yn edrych ar blanhigion y Tŷ Gwydr Mawr sydd yn eu blodau yn y gaeaf, rydyn ni nawr yn edrych ar flodau o Ranbarth Blodau’r Penrhyn yn Ne Affrica.

Y Penrhyn hwn yw’r lle mwyaf amrywiol o ran blodau ar y Ddaear, ac nid rhyfedd fod ein harddangosfa yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Ond a yw’n werth ei weld yn y gaeaf? Yr wythnos hon anfonwyd ein gwirfoddolwyr cadwraeth allan i gyfrif yr holl blanhigion oedd yn eu blodau yn  ein harddangosfa ar Dde Affrica, ac maen nhw wedi cyflwyno rhestr o fwy na 40 o wahanol rywogaethau o blanhigion sy’n blodeuo.

Nawr os meddyliwch fod hwn wedi ei ystyried yn un o’r cyfnodau mwyaf difywyd yn y flwyddyn yn y Tŷ Gwydr Mawr, yn fuan iawn mae hwn yn nifer rhyfeddol o fawr.

Felly, pa blanhigion sydd yn eu blodau?

I fi, y planhigyn mwyaf eithriadol yw un o’r rhai lleiaf.  Mae blodau gwyrddlas briallen y Penrhyn Lachenalia viridiflora yn odidog. Cafodd ei darganfod dim ond yn y 1960au, ac erbyn hyn mae’n gyfyngedig i un ardal ar dir preifat ar arfordir gorllewinol y Penrhyn, lle mae’n cael ei bygwth gan ddatblygiadau tai gwyliau.

Mae’r friallen i’w gweld yn y gwely arddangos wrth ymyl mynedfa’r Gorllewin – drwy gario pridd a chompost newydd yma mae’r gwely hwn nawr yn edrych yn wirioneddol ffres.

Mae yna 8 math o rug Erica yn eu blodau i gychwyn, gan gynnwys blodau pinc hardd Erica discolor –  mae troad y blodau ar ffurf tiwb yn addas i big yr aderyn haul sy’n ei beillio. Nawr cofiwn mai 4 math o flodau grug Erica yn unig sy’n frodorol ym Mhrydain a bod gan y Penrhyn dros 800 o fathau o Erica, ac nad yw 690 o’r rheiny i’w gweld yn unman arall ar y Ddaear.  Mae papur gwyddonol yn ddiweddar yn awgrymu y gellir olrhain gwreiddiau cynnar pob math o Erica ar y Penrhyn at un planhigyn cyffredin 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Daw 90% o blanhigion pelargoniwm y byd o Ddeheudir Affrica ac mae yma dri math yn eu blodau ar hyn o bryd – i gyd â gwahanol fathau o liw coch yn eu blodau. Byddai un o’r rhain, pelargoniwm y Penrhyn Pelargonium sidoides, yn cael ei ddefnyddio gan y bobl Zulu i drin problemau’r ysgyfaint, a chyn dyfodiad gwrthfiotigau defnyddid gwreiddiau’r planhigyn hwn i drin cleifion ym Mhrydain yn dioddef o’r diciâu.

Mae planhigion proteas yn cael eu cysylltu’n agos iawn â De Affrica, ac mae eu blodyn cenedlaethol, protea’r Brenin, neu Protea cynaroides, yn dal yn ei flodau heddiw fwy neu lai.

Tynnwch eich llaw ar draws y blodyn mawr trwm – mae’n rhyfeddol o esmwyth.

Mae rhai planhigion eraill yn tynnu sylw.  Mae blodau anarferol yr Hymanthus albiflos, planhigyn sy’n tyfu ar arfordir y Penrhyn, wedi peri ei alw’n flodyn brwsh paent neu frwsh eillio. Ond mae’n well gen i Kniphofia bruceae, nid yn unig am ei fod o’r un enw a fi!  Cafodd ei ddisgrifio gyntaf dros ganrif yn ôl, a chredid ei fod wedi diflannu yn y gwyllt nes i un planhigyn gael ei ddarganfod yn Ne Affrica yng nghanol gallt o goed pîn estron.

Ond yn fuan bydd ganddo gystadleuaeth – mae blagur y goeden alwys Aloe arboresecns i’w gweld bron yn barod i ffrwydro ar agor, o bosibl gan ddatgelu eu blodau coch rhyfeddol yn barod erbyn y Nadolig.