14 Hyd 2019

Y dyfrgwn wrthi’n brysur yn yr Ardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Os na welsoch chi Land of the Wild gan BBC Cymru Wales, yna bu i chi golli gem o gyfres. Bu i chi hefyd golli darnau gwych o ffilm o’n dyfrgwn wrthi’n brysur ac yn chwarae o amgylch llynnoedd yr Ardd Fotaneg.

Wedi’u tynnu gan y dyn camera Richard Hopkins, a hynny dros gyfnod dyfal o ryw 18 mis, roedd y darnau o ffilm a ddefnyddiwyd yn y rhaglen yn eithaf byr – wedi’r cyfan, roedd yn rhaid dal holl fywyd gwyllt rhyfeddol Cymru mewn dim ond pedair rhaglen!

Felly, mae Richard, yn garedig iawn, wedi caniatáu i ni rannu darnau o’i ffilm na chawsant eu defnyddio.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau.