5 Medi 2019

Ffocysu ar y Planhigion: Ferfain yr Ariannin (Verbena bonariensis)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Ffocysu ar y Planhigion gan Ben: Ferfain yr Ariannin (Verbena bonariensis)

Os ydych chi wedi ymweld â gardd gyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n debyg eich bod chi wedi gweld y planhigyn hwn.  Yn cynnig diddordeb hyd at ddiwedd y tymor, gyda’i ffurf ysgerbydol syfrdanol, a’n boblogaidd iawn gyda phryfed peillio, mae’n ticio’r blychau i gyd!  Gall gyrraedd tua 2 fetr o daldra felly mae ganddo botensial mawr yn y mwyafrif o gynlluniau plannu, gan weithio’n enwedig o dda mewn gerddi gwyllt ac anffurfiol.  Mae natur denau ei ffurf yn eich galluogi i’w edrych drwyddo, felly gellir gweld y planhigion sydd y tu ôl iddo.

Yn bersonol, rwy’n dwli ar y planhigyn hwn wedi’i osod yn erbyn gweiriau, gan ychwanegu fflach yr haf cyn i’r gweiriau, fel y gwelir yma ger pwll drych yr Ardd, gymryd y llwyfan yn yr hydref.  Fel planhigyn lluosflwydd byrhoedlog, mae’r planhigyn hwn yn hadu ei hun yn llwyddiannus, a ni fydd yn gorchuddio na mygu planhigion eraill.  Mae hyn hefyd yn golygu bod arbed hadau eich hun yn gymharol syml (hau yn 18-20oC rhwng yr hydref a dechrau’r gwanwyn) felly mae’n hawdd lledaenu’r Ferfain o amgylch yr ardd.

Mae’n hapus i dyfu ym mhob math o bridd heb lawer o ots am y pH (cyn belled nad yw’n eithafol) mae’r planhigyn hwn yn ychwanegiad gwych arall i unrhyw ardd.  Torrwch y coesau yn ôl yn y gwanwyn, wrth i dyfiant newydd ddod i’r amlwg, torrwch ben gwywedig y blodyn os nad ydych am iddo hau.  Mae’n well gan y planhigyn hyfryd hwn fod yn yr haul, ond gall oddef ychydig bach o gysgod.  Os ydych yn cael gaeafau oer, defnyddiwch domwellt sych i amddiffyn y planhigion rhag yr elfennau.