25 Medi 2019

Ffocysu ar y Planhigion: Euonymus alatus

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Ffocysu ar y Planhigion gan Ben: Euonymus alatus

Mae’r hydref ar y ffordd.  Gallwch chi ei deimlo yn y gwynt ac mae’n nosi’n gynt, ond yn bwysicaf oll, mae’r dail yn newid.  Dyma gyfnod y flwyddyn yn llawn lliwiau oren, coch, brown a melyn, a mwy na thebyg fy hoff amser o’r flwyddyn.  Bob blwyddyn rwy’n cadw llygad ar yr Euonymus i newid lliw, gyda’i dail cochion llachar, gan weiddi bod y tymor yn newid ac i baratoi amdano!  Yn wych fel llwyn bach yng nghefn bordor blodau, neu fel gwrych anffurfiol, mae Euonymus yn ychwanegiad gwych i unrhyw ardd, gan ei fod yn llawer llai na’i gymar gwyllt mae’n haws i’w gwasgu i mewn!  Wedi’i weld yn yr Ardd Fewnol o’r Ardd Ddeu-fur (llun uchod) mae’n debyg y byddech chi’n cerdded heibio iddo am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ond ar hyn o bryd, mae bron yn amhosibl ei golli!

Gan dyfu’n orau mewn man heulog neu’n rhannol gysgodol, mae’r planhigyn hwn yn gallu goddef y mwyafrif o fathau o bridd a lefelau pH.  Wrth dyfu mewn man cysgodol, bydd y dail yn aros ar y planhigyn am gyfnod hirach cyn i’r gwynt eu chwythu i ffwrdd.  Gall dyfu hyd at 1.5m o daldra ac mae’n addas ar gyfer y mwyafrif o erddi, fodd bynnag, bydd pob rhan o’r planhigyn yn achosi tostrwydd difrifol os caiff ei fwyta, felly cadwch oddi wrth blant a chŵn.  Gallwch luosogi o doriadau rhannol aeddfed o ddiwedd yr haf – dechrau’r hydref.