22 Awst 2019

Peilliwr y dydd #6 – Cacynen Gynffon Goch (Bombus lapidarius)

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Y gacynen gynffon goch yw un o’r cacwn mwyaf cyffredin ac maent i’w gweld yn aml mewn gerddi. Mae’r breninesau a’r gweithwyr yn ddu gyda chynffon goch gref, ond mae’r rhai gwryw’n edrych yn wahanol iawn. Yn hytrach, mae gan y rheiny goler ac wyneb melyn a chynffon yn fwy o liw oren. Daw’r breninesau allan yn gynnar yn y gwanwyn, yna’r gweithwyr ac yna’r rhai gwryw. Gellir eu gweld yn hedfan tan ddiwedd yr hydref mewn amrywiol gynefinoedd ar draws Prydain.

Gall gwenyn cwcw fynd i mewn i nythod y cacwn, ac fel yr adar byddant yn dodwy eu hwyau mewn celloedd a chael eu bwydo gan y gacynen gynnal i gael eu codi fel eu hwyau hi. Weithiau aiff y gacynen gwcw mor bell â lladd y frenhines a defnyddio fferonomau i dwyllo gweithwyr y cwch i feddwl ei bod yn un ohonyn nhw. Wedyn bydd yn magu ei rhai bach ar yr holl baill sy’n cael ei ddarparu gan y gweithwyr. Am y rheswm hwn does gan wenynen gwcw ddim basged  ar gyfer paill ar ei choesau ôl na breninesau na gweithwyr, dim ond rhai gwryw a rhai benyw. Mae’r gacynen gwcw sy’n cymryd nyth y Bombus lapidarius yn debyg iawn i’r wenynen gwcw gynffon goch (Bombus rupestris).

I ddarganfod mwy am ein peillwyr, ymunwch yn Ŵyl y Peillwyr, Awst 24-26 2019.