19 Awst 2019

Peilliwr y dydd #3 – Y Wenynen Fêl

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Gwenynen fêl y Gorllewin, Apis mellifera, yw’r unig rywogaeth o wenyn mêl sydd gennym ym Mhrydain. Cânt eu cadw mewn cychod gwenyn a’u rheoli gan wenynwyr i gynhyrchu mêl a chŵyr, sy’n cael eu casglu at ddibenion masnachol. Mae’r nyth yn cynnwys gweithwyr (rhai benyw) a gwenyn segur (rhai gwryw) sy’n cael eu rheoli gan un frenhines â fferonomau. Diben y gweithwyr yw chwilio am baill a neithdar a magu rhai ifanc, a bydd y rhai gwryw yn gadael y cwch pan fyddant yn aeddfed yn rhywiol i gyplu â brenhines wyryf o nyth arall.

Mae’r fyfyrwraig PhD, Laura Jones, wedi bod yn astudio gwenyn mêl yn yr Ardd ers llawer blwyddyn. Bob mis cymerir sampl o fêl o’r cychod i weld pa blanhigion mae’r gwenyn yn eu defnyddio. Mae’r canlyniadau cychwynnol yn dangos mai cyfran fechan o’r adnoddau sydd ar gael maent yn eu defnyddio yn ystod y gwanwyn, a chanran uchel o’u deiet yn dod o rywogaethau coedlannau a chloddiau. Mae Laura hefyd wedi cymryd samplau oddi wrth 441 o wenynwyr ym Mhrydain i weld sut mae chwilio am fwyd yn wahanol ar raddfa genedlaethol. Bydd y canlyniadau hyn ar gael yn fuan iawn, felly daliwch i edrych!

I ddarganfod mwy am ein peillwyr, ymunwch yn Ŵyl y Peillwyr, Awst 24-26 2019.