22 Chwef 2019

Cwrdd â Phryf Brigyn Mawr

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Gan Lydia Cocks

Nid pryfed yw hoff greaduriaid pawb, ond hebddynt ni fyddai’r byd y gwyddom amdano yn bodoli. Felly, beth am fynd am dro i’r Tŷ Gwydr Mawr yn ystod yr hanner tymor y mis Chwefror hwn, i ddysgu am fyd rhyfeddol y bwystfilod bach, a pham y maent mor bwysig.

Bydd yna gyfleoedd i drin bwystfilod bach go iawn, a bydd yna hefyd lawer o wybodaeth ar gael am ein glöynnod byw trofannol, am yr ymchwil i beillwyr sy’n mynd rhagddo yn yr Ardd, ac am yr hyn y gallwch chi ei wneud gartref i helpu i roi cymorth i fwystfilod bach!

Pwy fydd yno?

Pryfed Brigyn Pigog Guinea Newydd – Eurycantha calcarata

Percy, Fred, Bertha, a Brünhilda

Mae’r pryfed brigyn hyn yn anarferol am eu bod yn treulio llawer o’u hamser ar y llawr yn hytrach nag yn y coed. Maent fel arfer yn cysgu o dan foncyffion yn ystod y dydd ac yn deffro yn y nos, i gnoi dail. Maent yn hynod o gymdeithasol, a gallwch yn aml ddod o hyd iddynt wedi cwtsio gyda’i gilydd pan fyddant yn cysgu.

Pryfed Brigyn Guadeloupe – Lamponius guerini

Daw’r pryfed brigyn hyn o ynys ym Môr y Caribî. Maent wrth eu bodd yn dringo a chnoi mieri, sef eu hoff fwyd. Mae’r rhain yn dal i dyfu ac yn rhy fach i’w trin ar hyn o bryd, ond gallwch ddod i gwrdd â nhw. Wedi iddynt dyfu’n llawn, byddant yn 9 cm o hyd!

Mae eu cuddliw yn ardderchog, felly dewch i weld faint y gallwch ddod o hyd iddynt!

Pryfed Dail – Phyllium philippinicum

Pryfed dail yw rhai o’r dynwaredwyr mwyaf anhygoel yn y byd naturiol. Mae eu cyrff cyfan yn ddigon fflat a thenau i chi allu disgleirio golau trwyddynt! Maent hefyd yn mynd i’r ymdrech o wiglo wrth gerdded er mwyn ymddangos fel dail yn siglo yn y gwynt.

Chwilen Gorniog – Prosopocoilus giraffe

Mr Grumps

Efallai eich bod yn gyfarwydd â’n chwilod corniog Prydeinig. Mewn gwirionedd, mae gennym ddwy rywogaeth, y chwilen gorniog (Lucanus cervus) a’r chwilen gorniog fach (Dorcus parallelipipedus). Mae Mr Grumps yn chwilen gorniog drofannol o Asia, ac yn un o’r rhywogaethau chwilod corniog mwyaf yn y byd. Yn union fel ein rhywogaethau Prydeinig, mae ganddi ffrinj o flew aur o amgylch ei chymalau.

Mae’n gallu pinsio, felly ni fyddwch yn gallu ei thrin, ond gallwch ddod i ddweud helô.

Miltroed Ddu Fawr Affrica – Archispirostreptus gigas

Florence

Mae Florence yn filtroed fawr sy’n dod yn wreiddiol o goedwig law Affrica (er iddi gael ei bridio mewn caethiwed). Mae hi eisoes tua dyflwydd oed a bron wedi tyfu’n llawn, ond gallai fyw am hyd at 10 mlynedd! Dail sy’n pydru yw ei phrif fwyd, ond mae wrth ei bodd yn cael ffrwythau a llysiau yn drît. Mae Florence yn hynod o gyfeillgar ac wrth ei bodd yn cwrdd â phobl newydd.

Rhiain Burma – Diploda sp.

Sausage

Math arall o filtroed fawr yw Sausage. Dim ond baban yw hi ar hyn o bryd, ond wedi iddi dyfu’n llawn, bydd deirgwaith mor fawr! Mae hi’n eithaf swil, felly efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio’n go fanwl i’w gweld yn ei thanc.

Cocrotsys Hisiog Madagascar – Gromphadorhina portentosa

Mae cocrotsys yn aml yn cael enw drwg, ond o’r 4,500 o rywogaethau yn y byd, mae llai nag 1% yn bla. Mae cocrotsys hisiog Madagascar yn bryfed hyfryd, a’u bywydau cymdeithasol yn gymhleth. Maent yn siarad â’i gilydd trwy synau hisio, ac yn gwneud sŵn hisio hynod o uchel i ddychryn ysglyfaethwyr (a phobl!). Maent yn fwy na pharod i gael eu codi, ar yr amod nad yw eich dwylo yn rhy oer!

Chwilod Mawr y Blodau – Mychorrina torquata ugandensis (larfa)

Go brin y byddai’r rhain yn ennill unrhyw gystadlaethau harddwch (am griw o bethau bach hyll!), ond pan fyddant wedi tyfu i fyny i fod yn chwilod, bydd y stori’n un wahanol. Mae chwilod y blodau yn treulio tipyn o amser ar ffurf larfa (hyd at flwyddyn!), cyn chwilera a dod yn oedolion yn y pen draw. Fel rheol, mae’r larfa o dan ddaear neu’n cael eu turio i mewn i bren marw, felly nid yn aml y gwelwch chi nhw.

 

Felly pwy yw’r dyn gwallgof sy’n cadw’r holl bryfed hyn?!

Fy enw yw Lydia Cox, ac rwyf yma yn yr Ardd am leoliad 12 mis. Rwyf hanner ffordd trwy fy ngradd Bioleg ym Mhrifysgol Reading ar hyn o bryd, ond mae fy nghefndir ym myd y pryfed yn mynd yn ôl yn llawer pellach na’m gradd. Rwyf wedi bod yn ymddiddori mewn pryfed cyhyd ag y gallaf gofio (mae chwilod y merllys a gwyfynod tuswog yn atgofion da o’m plentyndod!), a’r unig beth yr oeddwn am ei gael ar gyfer fy wythfed pen-blwydd oedd trap gwyfynod!

Y pryfed cyntaf i mi eu magu oedd ychydig o lindys gwyfyn titw a dynnais o goeden helyg yng ngardd ffrind. Roeddwn yn fy elfen o’r cychwyn cyntaf. Roedd eu gwylio’n tyfu ac yn newid siâp a lliw yn fy swyno. Ers hynny, rwyf wedi magu pob math o lindys; yn ogystal â bod yn llawer o hwyl, mae hyn o bwysigrwydd gwyddonol go iawn gan fod yr wybodaeth am ymddygiad ac ymddangosiad llawer o lindys gwyfynod Prydain, yn enwedig y gwyfynod micro, yn brin o hyd.

Er fy mod wedi bod yn magu rhywogaethau cynhenid ers amser maith, dim ond yn gymharol ddiweddar y penderfynais roi cynnig ar rywogaethau trofannol (er mawr ddychryn i’m ffrindiau sy’n rhannu tŷ â mi!). Canlyniad hyn yw gwyfynod Atlas yn hedfan o gwmpas fy ystafell, cynnydd sylweddol yn y ffrwythau yr wyf yn eu prynu, a landlordiaid pryderus iawn …

Os hoffech ddysgu rhagor am y pryfed yr wyf yn eu cadw, a pham yr wyf yn eu cadw, yna dewch i ddweud helô!