20 Maw 2018

Cynllun Prentis yr Ardd yn Dwyn Ffrwyth

Bruce Langridge

The apprentice becomes the master
Who he has strived to be
Yet learns, and learns, and learns
Until his dying day.

The Apprentice and the Master, Half-Wizard, 2006

 

Mae’r llinell o farddoniaeth yn adlewyrchu fy marn innau nad ydych byth yn gorffen dysgu er pa mor ‘arbenigol’ y mae eraill yn eich canfod chi i fod. Yn wir, yn fy myd botanegol a mycolegol, y mwyaf yr ydych yn dysgu am bwnc, y mwyaf y dewch ar draws eraill sy’n gwybod llawer fwy na chi eich hun, ac yna rydych chi’n dysgu bod fwy i’w ddysgu na’r hyn y gwnaethoch erioed freuddwydio amdano o’r blaen.
Ond dw i’n meddwl mai dechrau ydy’r broses dysgu galetaf. Mae wir yn anodd pan rydych yn dechrau gyrfa mewn rhywbeth sy’n eich denu’n emosiynol neu’n ddeallusol ac yn cael ei dynnu ato. Sut i gael y cyfle i brofi eich hun? Ble dylech fynd? Pwy sydd yn gallu eich helpu? Sut fedrwch chi fforddio cael hyfforddiant?
Rwyf wedi bod yn gweithio yn yr Ardd ers amser maith erbyn hyn a dw i wir wedi mwynhau gweld y cynllun prentis garddwriaethol yn datblygu dros y 4 blynedd ddiwethaf. Mae’n rhywbeth y dylai’r Ardd, a’i phrif gefnogwr prentis Patrick Daniell, fod yn falch ohono.

Mae cymryd rhywun sydd yn dwlu ar arddwriaeth ond gydag ychydig o brofiad yn dipyn o beth gan ystyried bod nifer o’n garddwyr wedi gorfod treulio blynyddoedd yn hyfforddi am eu cymwysterau.

 

Ond mae’r cynllun wir yn dechrau dwyn ffrwyth nawr. Mae ein prentis cyntaf, Carly Green, wedi graddio i fod yn gyfrifol am ein casgliad o blanhigion cynefinol Cymreig a gallaf dystiolaethu’n bersonol ei bod wedi cymryd i hyn ar chwyrlwynt o frwdfrydedd ac uchelgais, rhinweddau y disgwyliaf iddi deimlo’n ddiogel i’w gwneud mewn lle ble wnaeth hi ddysgu ei chrefft.

Treuliodd dau brentis arall, Matthew Bryant a Ben Wilde, ran o’r flwyddyn ddiwethaf yn fy helpu i gasglu hadau tegeirian gwyllt o’n caeau Waun Las ac roeddwn wrth fy modd yn gweld sut yr oedd y ddau yn ymddangos yn hapus gyda chyfundrefn enwau botanegol a chael y reddf am yr hyn sydd eisiau chwilio amdanynt. Rhai wythnosau’n ôl, fe wnes i ddarganfod fy hun yn eistedd drws nesaf i’n prentis mwyaf diweddar Jen Keyte mewn seminar am fwyd cynaliadwy a chefais fy syfrdanu gan faint yr oedd yn gwybod am y materion a pha mor amlwg ydoedd ei bod am ddarganfod mwy, rhinweddau da mewn prentis. Dw i hefyd wedi meddwl nad ydwyf wedi gweld Jen heb het ers iddi ddechrau gyda ni yn yr hydref – dyw hi ddim wedi stopio bwrw glaw ers iddi ymuno â ni!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn brentis, mae ein rownd nesaf o recriwtio wedi dechrau. Dewch o hyd i fanylion am sut mae ceisio o dan y blog yma.