5 Ion 2018

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 3

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Blwyddyn Newydd Dda!

Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru!  Mae mynediad AM DDIM yn ystod yr wythnos trwy gydol mis Ionawr, gyda phris mynediad gostyngol o £4 y person ar benwythnosau.

Mae rhywbeth arbennig ymlaen bob penwythnos y mis hwn:

Dydd Sadwrn 6ed – Dydd Sul 7fed o fis Ionawr
Penwythnos i Chi a’r Ci – Dewch â’r ci bach am awyr iach gorau Sir Gâr.

Dydd Sadwrn 13eg – Dydd Sul 14eg o fis Ionawr
Penwythnos Crefftau Coed – Bydd crefftwyr glew yn dangos sut i drin pren ac fe gewch brynu offer arbenigol o bob math ar y stondinau.

Dydd Sadwrn 20fed – Dydd Sul 21ain o fis Ionawr
Ffair Fwyd – Y bwyd a diod gorau yng Ngorllewin Cymru.

Dydd Sadwrn 27ain – Dydd Sul 28ain o fis Ionawr
Ffair Hen Bethau – Bydd stondinau o gwmpas yr Ardd yn drwmlwythog â thrysorau a bargeinion di-ri, gyda chriw ‘Bargain Hunt’ y BBC yn dychwelyd i ffilmio!

 

Cadw’n Heini – AM DDIM!

Gwnewch yn fawr o’r mynediad am ddim yn ystod yr wythnos trwy gydol fis Ionawr i gadw’n heini.  Mae dewis o lwybrau i’w dilyn, a byd natur i’w werthfawrogi ar bob un ohonynt.  Casglwch bamffled o’r llwybrau ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yn y brif fynedfa ar eich ffordd i mewn, neu cymerwch olwg fan hyn i drefnu’ch ymweliad o flaen llaw.

Pam na wnewch chi gadw i’ch addunedau’r Flwyddyn Newydd drwy losgi’r calorïau gyda 568 erw o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol fel cefndir?

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – ac mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Os ydych chi’n mwynhau’r ffordd hon o gadw’n heini, beth am gymryd aelodaeth flynyddol er mwyn i chi gadw mwynhau mynediad am ddim i’r Ardd am weddill y flwyddyn.

 

Cerdded Nordig

Gan ddechrau ar Ddydd Llun Ionawr yr 8fed, ymunwch â ‘Pilates in the Nordic‘ am Ddosbarthiadau Cerdded Nordig pob Dydd Llun yn ystod tymor yr ysgol, o 12:30-2:30yp.

Mae Cerdded Nordig yn welliant o gerdded cyffredin – mae’n gwneud rhywbeth y gallwn i gyd ei wneud… ddwywaith mor effeithiol!  Mae Cerdded Nordig yn defnyddio polion i symud y cerddwr ymlaen.  Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithio’n galetach na’r arfer, ond mae’r gefnogaeth a roddir gan y polion yn ei gwneud hi’n haws.  Mae’r defnydd o bolion yn golygu bod cyhyrau’r corff uchaf yn cael eu defnyddio yn ogystal â’r coesau, gan gymryd pwysau o’r cymalau.
Rhaid archebu pob dosbarth ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Becki yn Pilates in the Nordic ar 07502 215827 neu pilatesinthenordic@gmail.com neu archebwch ar-lein trwy dudalen gweithgareddau y wefan www.pilatesinthenordic.com

 

Sgyrsiau Amser Cinio Am Ddim

Cewch gyfle i galonogi dyddiau oer y gaeaf ym mis Ionawr trwy glywed straeon am anturiaethau botanegol o bob cwr o’r byd.

Bydd tri o ymchwilwyr planhigion modern rhyngwladol yn rhoi sgyrsiau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar dri Dydd Gwener yn olynol am 12 canol dydd – mae’r sgyrsiau am ddim ac mae mynediad i’r Ardd am ddim hefyd.

Ar Ionawr 12, bydd Alex Summers, Uwch Garddwr yng Ngardd Fotaneg Prifysgol Caergrawnt, yn rhoi sgwrs o’r enw ‘Plant hunting in Northern Vietnam’, a fydd yn canolbwyntio ar ei daith i lethrau coediog y mynyddoedd Haong Lien yng Ngogledd Fietnam.

Ar y 19eg, dyma dro Tom Christian, Swyddog Prosiect yn y Rhaglen Cadwraeth Gonifferaidd Ryngwladol.  Bydd ei sgwrs ‘Travel in search of Conifers’ amdano’i nifer o deithiau i chwilio am gonwydd yn y wlad hon a thramor, a bydd yn helpu i gyflwyno’r grŵp hwn o blanhigion rhyfeddol mewn golau newydd.

Colofnydd y Guardian, Robbie Blackhall-Miles, sy’n cwblhau’r triawd o helwyr garddwriaethol anhygoel ar Ionawr 26 gyda sgwrs o’r enw ‘Hunting Shapeshifters: the search for Proteas in the mountain of South Africa.’  Mae Robbie yn weithiwr planhigion a gwarchodwr.  Mae Planhigion Ffosil, ei gardd fotaneg yng Ngogledd Cymru, yn gartref i gasgliad o blanhigion esblygiadol cynnar.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 12 canol dydd yn Theatr Botanica’r Ardd.  Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ewch i https://garddfotaneg.cymru

 

Penwythnos i Chi a’r Ci

Dewch a’r ci bach am awyr iach yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ar Benwythnos i Chi a’r Ci.

Cynhelir Penwythnos i Chi a’r Ci ym mis Ionawr ar Ddydd Sadwrn 6ed a Dydd Sul 7fed, a bydd mynediad ond yn £4 y person!

Peidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd!

Gweler rhestr lawn o reolau’r Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.

Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.  Ni chaniateir tenynnau estynedig, gallwch gyfnewid eich un chi am un sydd ddim yn ymestyn hyd ddiwedd eich ymweliad.