10 Ion 2018

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 10

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Penwythnos Crefftau Coed

Turnwyr pren, cerfwyr llwyau caru, gwneuthurwyr ffyn, offer pŵer a phyrograffeg, bydd y ‘prencampwyr’ hyn i gyd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am benwythnos o arddangosiadau ac arddangosfeydd – ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Ionawr 13-14.

Cynhelir Penwythnos Crefft Coed poblogaidd yr Ardd rhwng 10yb a 4.30yp ar y ddau ddiwrnod, a’r tâl mynediad yw £4 yn unig.

Bydd digon o bethau ynddo i ymddiddori ymwelwyr dros Benwythnos Crefftau Coed yr Ardd, gan gynnwys arddangosiadau a gweithdai i blant o byrograffeg, gan y pyrograffwr byd enwog, Bob Neill.

Bydd yna hefyd arddangosiadau ac arddangosfeydd o offer pŵer a chynnyrch pren gan AxminsterIsca Timber a nifer o glybiau crefftau coed lleol.

Hefyd yn arddangos eu gwaith fydd Cymdeithas Cerfwyr Pren Prydain.

Gallwch ryfeddu at arddangosfeydd hedfan dyddiol gan Y Ganolfan Adar Ysglygaethus Prydeinig neu fwynhau’r gwres yng nghwmni’r pilipalod lliwgar yn y Plas Pilipala trofannol.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu unrhyw ddigwyddiad arall ewch i’n gwefan, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

 

Cadw’n Heini – AM DDIM!

Gwnewch yn fawr o’r mynediad am ddim yn ystod yr wythnos trwy gydol fis Ionawr i gadw’n heini.  Mae dewis o lwybrau i’w dilyn, a byd natur i’w werthfawrogi ar bob un ohonynt.  Casglwch bamffled o’r llwybrau ‘Cadw’n Heini Am Ddim‘ yn y brif fynedfa ar eich ffordd i mewn, neu cymerwch olwg fan hyn i drefnu’ch ymweliad o flaen llaw.

Pam na wnewch chi gadw i’ch addunedau’r Flwyddyn Newydd drwy losgi’r calorïau gyda 568 erw o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol fel cefndir?

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd.

Mae’r amrywiaeth o lwybrau yma wedi cael eu marcio’n glir, ac mae map am ddim i’ch tywys ar eich taith – ac mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

Os ydych chi’n mwynhau’r ffordd hon o gadw’n heini, beth am gymryd aelodaeth flynyddol er mwyn i chi gadw mwynhau mynediad am ddim i’r Ardd am weddill y flwyddyn.

 

Teithiau gydag archwilwyr planhigion rhyngwladol – Sgyrsiau amser cinio AM DDIM

Cewch gyfle i galonogi dyddiau oer y gaeaf ym mis Ionawr trwy glywed straeon am anturiaethau botanegol o bob cwr o’r byd.

Bydd tri o ymchwilwyr planhigion modern rhyngwladol yn rhoi sgyrsiau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar dri Dydd Gwener yn olynol am 12 canol dydd – mae’r sgyrsiau am ddim ac mae mynediad i’r Ardd am ddim hefyd.

Ar Ionawr 12, bydd Alex Summers, Uwch Garddwr yng Ngardd Fotaneg Prifysgol Caergrawnt, yn rhoi sgwrs o’r enw ‘Plant hunting in Northern Vietnam’, a fydd yn canolbwyntio ar ei daith i lethrau coediog y mynyddoedd Haong Lien yng Ngogledd Fietnam.

Ar y 19eg, dyma dro Tom Christian, Swyddog Prosiect yn y Rhaglen Cadwraeth Gonifferaidd Ryngwladol.  Bydd ei sgwrs ‘Travel in search of Conifers’ amdano’i nifer o deithiau i chwilio am gonwydd yn y wlad hon a thramor, a bydd yn helpu i gyflwyno’r grŵp hwn o blanhigion rhyfeddol mewn golau newydd.

Colofnydd y Guardian, Robbie Blackhall-Miles, sy’n cwblhau’r triawd o helwyr garddwriaethol anhygoel ar Ionawr 26 gyda sgwrs o’r enw ‘Hunting Shapeshifters: the search for Proteas in the mountain of South Africa.’  Mae Robbie yn weithiwr planhigion a gwarchodwr.  Mae Planhigion Ffosil, ei gardd fotaneg yng Ngogledd Cymru, yn gartref i gasgliad o blanhigion esblygiadol cynnar.

Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 12 canol dydd yn Theatr Botanica’r Ardd.  Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

 

Ffair Fwyd

Mae yna ddigon o fwydydd blasus i galonogi mis Ionawr hir ac oer ym mhenwythnos Ffair Fwyd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Ionawr 20-21.

Cynhelir y digwyddiad yn amgylchyniad syfrdanol Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster a fydd yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion lleol blasus – ac mae mynediad i’r Ardd ond yn £4 y person.
 

Dysgu Cerdder Nordig

Ymunwch â ‘Pilates in the Nordic‘ am Ddosbarthiadau Cerdded Nordig pob Dydd Llun yn ystod tymor yr ysgol, o 12:30-2:30yp.

Mae Cerdded Nordig yn welliant o gerdded cyffredin – mae’n gwneud rhywbeth y gallwn i gyd ei wneud… ddwywaith mor effeithiol!  Mae Cerdded Nordig yn defnyddio polion i symud y cerddwr ymlaen.  Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithio’n galetach na’r arfer, ond mae’r gefnogaeth a roddir gan y polion yn ei gwneud hi’n haws.  Mae’r defnydd o bolion yn golygu bod cyhyrau’r corff uchaf yn cael eu defnyddio yn ogystal â’r coesau, gan gymryd pwysau o’r cymalau.
Rhaid archebu pob dosbarth ymlaen llaw.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Becki yn Pilates in the Nordic ar 07502 215827 neu pilatesinthenordic@gmail.com neu archebwch ar-lein trwy dudalen gweithgareddau y wefan www.pilatesinthenordic.com