22 Tach 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Tachwedd 22

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Parti’r Sêr

Cewch syllu ar yr awyr fry yng nghwmni aelodau Cymdeithas Seryddiaeth Abertawe.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal Parti’r Sêr, mewn partneriaeth â Chymdeithas Seryddiaeth Abertawe ac AstroCymru, gyda gweithgareddau seryddiaeth y prynhawn o 2yp tan 5:30yp, a Pharti’r Sêr o 6yh tan 10yh, ar Ddydd Sadwrn, Tachwedd 25ain.

Y gost am weithgareddau seryddiaeth y prynhawn yw £3 y plentyn, yn ychwanegol i dâl mynediad i’r Ardd, gyda gweithdy Seren Wib a Mathemateg (oed 8+) yn rhedeg am hanner awr ac yn dechrau am 2yp, 3yp, 4yp a 5yp.  Bydd sesiynau creu rocedi a D2E gydag AstroCymru yn rhedeg o 2yp hyd at 5:30yp.

Y gost am Barti’r Sêr yw £3 y plentyn, os ydynt wedi talu am weithgareddau’r prynhawn ni fydd rhaid talu eto.  Mae oedolion am ddim ond croesewir rhoddion.  Mae tocyn teulu i’r digwyddiad yn £6 (2 oedolyn a hyd at 4 o blant).

Ar gyfer grwpiau sgowtiaid/brownis ac ati, y gost ar gyfer Parti’r Sêr yw £3 y plentyn, gydag oedolion sy’n cyd-fynd am ddim.

Byddwn yn gallu archwilio’r Lleuad, a fydd ychydig heibio ei chwarter cyntaf ac, os ydym yn ffodus, efallai y byddwn yn gallu gweld Wranws a’r blaned Neifion.  Byddwn hefyd yn defnyddio Orïon er mwyn dod o hyd i’r Pleiades.

Er bod y seryddiaeth yn ddibynnol ar y tywydd, byddwn yn gallu rhedeg gweithgareddau y tu mewn i’r Tŷ Gwydr Mawr os nad yw’r tywydd yn dda.

Am fwy o wybodaeth ar newyddion neu digwyddiadau’r Ardd, ewch i’n gwefan, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Cig Gwedder yr Ardd Fotaneg Ar Werth

Mae gennym gyflenwad arall o gig gwedder a fagwyd yn yr Ardd Fotaneg ar werth.

Fel ein cig oen a’n cig eidion, mae’r cig gwedder wedi’i fagu ar laswelltydd llawn rhywogaethau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, yma yn yr Ardd Fotaneg.

Mae’r blychau’n cynnwys cymysgedd o ddarnau a chwarthorion, e.e. coes, lwyn, ac wrth gwrs y ffefryn o Oes Fictoria, golwython cig gwedder (does dim ysbodau y tro hwn, mae’n flin gennym) . Bydd y blychau’n pwyso 9-11kg ac yn costio £85.   Bydd y cig yn barod i’w gasglu o 10yb yfory, Dydd Iau, Tachwedd 23.

Mae’r cyflenwad yn un cyfyngedig felly, fel yn y gorffennol, byddwn ni’n eu gwerthu ar sail ‘y cyntaf i’r felin…’   Ry’n ni’n cymryd archebion yn awr (talu drwy carden debyd).   Ffoniwch 01558 667149.

Yr Ardd ar Heno S4C

Os na weloch chi’r eitem ar yr Ardd fel man casglu i’r elusen, ‘Tools for Self-Reliance’, gallwch dal i fyny yma.  Neu, gallwch wylio’r darn ar Facebook yma.

Aelodau’r Ardd, Dorian a Janet Hague, oedd y cyntaf i roi hen offer garddio, a bu criw Heno S4C yma i ffilmio ar y diwrnod.

Mae TFSR Cymru wedi’i seilio yng Ngrug Hywel ac mae ganddynt 65 o wirfoddolwyr gweithgar sy’n cyfarfod yn eu gweithdai llawn offer i lanhau a thrwsio dyfeisiau a roddir.  Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, maent wedi anfon mwy na 100 tunnell o offer i wahanol wledydd yn Affrica.

Felly, dewch â’ch offer sbâr, diangen ac wedi torri (ond nid y tu hwnt i’w hatgyweirio!) i’r Ardd a byddwn yn eu trosglwyddo i TFSR Cymru.

Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn eitemau a fydd o ddefnydd i seiri, gof a phlymwyr.  Byddant hefyd yn derbyn offer garddio y maent yn eu hadnewyddu yn eu gweithdai ac yn eu hailwerthu ledled Cymru, gan ddefnyddio’r arian i dalu costau cludo nwyddau.

Dewch â’ch rhoddion i’r Ardd Fotaneg, ar unrhyw ddydd, rhwng 10yb a 4yp tan Ddydd Iau Tachwedd 30.

Gŵyl y Gaeaf

Does ddim llawer i’w aros tan ddigwyddiad ‘Gŵyl y Gaeaf‘ arbennig yr Ardd.

Dewch i’n ‘Gardd Gyda’r Nos’ a chewch fwynhau:

  • Sioe goleuadau ysblennydd
  • Gwdihŵ yn y gwyll
  • Gwin cynnes a mins-pei am ddim
  • Bar, barbeciw, roliau twrci, siwgr candi ac amryw o ddanteithion Nadoligaidd
  • Reidiau i blant a cherddoriaeth

Mae yna fynediad arbennig o’r 8fed i’r 17eg o fis Rhagfyr, rhwng 4-7yh: £6 i oedolion, £3 i blant, aelodau am ddim.

Aelodaeth fel Anrheg Nadolig

Ydych chi’n dechrau gofidio am y ffrind neu berthynas sy’n anodd prynu ar eu cyfer?

Aelodaeth i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r anrheg sy’n cadw rhoi – gan gynnig mynediad AM DDIM i’r Ardd 363 diwrnod o’r flwyddyn, a llawer mwy.

Mae’r prisoedd yn dechrau o £38 a chofiwch, gallwch brynu am unigolyn, am gwpl neu deulu cyfan (dau oedolyn a hyd at bedwar o blant).

Am fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, cymerwch olwg yma, ffoniwch Ysgrifenyddes Aelodaeth yr Ardd, Jane, ar 01558 667118 neu’r tîm mynediadau ar 01558 667149.

Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig

Mae yna brofiadau anhygoel i’w chael BOB dydd yn atyniad newydd sbon yr Ardd Fotaneg Genedlaethol – Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig – gydag arddangosfa hedfan dyddiol am 1yp!

Gallwch fwynhau arddangosfeydd hedfan gan Gudyll Bach, Barcudiaid Coch, Tylluan Wen a llawer mwy!