4 Hyd 2017

Mynd i graidd Perllan y Dreftadaeth Gymreig

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae twf diofal ganol haf yn arafu; mae’r mwyar duon ger yr hen dramwyfa cerbydau ‘nawr yn newid o goch sarrug i aeddfedrwydd, ac nid cywion mo cywion robinod cochion cymdeithgar yr ardd furiog mwyach. Yn yr ardd lysiau mae’r ymwelwyr yn mwynhau’r afalau ‘trosgamu’ a’u toreth o ffrwythau.  Mae’n rhaid i mi atgoffa pobl, “Nid ydynt yn aeddfed eto, rhag ofn eich bod yn tybio”; yn wir, mae afalau yn demtasiwn.

Ond mae’r afalau hyn yn rhai yr wyf yn eu galw’n afalau aberthol. Hynny yw, cânt eu tyfu i ddenu plâu i ffwrdd oddi wrth gnwd mwy gwerthfawr; yn yr achos hwn, afalau’r cyltifarau Cymreig a blannwyd ar lethrau ein gardd furiog allanol sy’n wynebu’r gorllewin.

Daeth y syniad ar gyfer Perllan Frodorol Gymreig i fod ar brynhawn Gwener ym mis Hydref 2011 pan oedd y curadur Simon Goodenough, a oedd newydd ei benodi ar y pryd, yn siarad â grŵp o wirfoddolwyr sy’n gyfrifol bob blwyddyn am yr arddangosfa helaeth o ffrwythau sy’n brif elfen ein penwythnos afalau. Digwyddodd rhywun ei glywyd yn gofyn, “… a ble mae Perllan y Dreftadaeth Gymreig?” Gan hynny plannwyd yr hedyn ymhlith y grŵp hwn o unigolion brwdfrydig, gwybodus ac awchus am wybodaeth sydd wrth wraidd tîm Perllan y Dreftadaeth Gymreig. Roedd eu hangerdd ynghylch unrhyw beth a oedd yn ymwneud ag afalau, eu hymchwil dyfal, a’u deialog barhaus â Rhwydwaith Afalau’r Gororau yn golygu bod y syniad, cyn pen blwyddyn, wedi bwrw gwreiddiau yn llythrennol, a hynny ar ffurf perllan fyw.

Ar hyn o bryd, mae’r berllan yn cynnwys 42 o gyltifarau sydd naill ai o dras Cymreig neu sydd â thraddodiad hirsefydlog o gael eu tyfu yng Nghymru.

Plannwyd y coed cyntaf yn haf diflas 2012, ac ehangwyd y casgliad yn y blynyddoedd dilynol. Mae’r coed wedi cael eu tocio’n ffurfiannol bob gaeaf, a hynny ochr yn ochr â sicrhau trefn fwydo briodol ac, ar wahân i ychydig o drafferth gyda cheirw ar y dechrau, mae’n ymddangos eu bod yn ffynnu ac, mewn sawl achos, yn dwyn ffrwyth.

Mae’r casgliad hwn yn llyfrgell fyw o ddeunydd genetig sy’n anelu at gwmpasu pob amrywogaeth hysbys o afalau bwyta, coginio a seidr Cymreig. Gyda chymorth parhaus gwirfoddolwyr y Berllan a Rhwydwaith Afalau’r Gororau, rydym yn ymrwymedig i ledaenu’r neges am yr amrywiaeth odidog o afalau Cymreig, ac i warchod y dreftadaeth honno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn anffodus, er bod bron pob un o’r cyltifarau Malus domestica sy’n cael eu crybwyll mewn llenyddiaeth wedi cael eu hailddarganfod, mae’n bosibl bod rhai ohonynt wedi’u colli am byth. Roedd Foreman’s Crew yn amrywogaeth a dyfwyd tua 1826 gan Thomas Seton Forman Ysw. o Dŷ Penydarren ger Merthyr Tudful. Caiff ei ddisgrifio’n “un o’r afalau bwyta gorau, ac iddo flas y Nonpareil a’r Golden Pippin.” Ar bapur yn unig y mae hwn yn bodoli ar hyn o bryd.

Ond mae bob amser yn well dathlu’r hyn sydd gennym na’r hyn nad yw gennym, ac mae’n bleser gweld yr amrywiaeth o ffrwythau sy’n rhan o gynhaeaf eleni. Wrth i’r coed dyfu ac aeddfedu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, byddwn yn cynnal darlithoedd a diwrnodau hyfforddiant yn y berllan, ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau’n ymwneud ag afalau.

Mae’r ffaith bod gan yr Ardd hon gasgliad o’r fath yn amhrisiadwy. Mae’n drysor Cymreig gwirioneddol.