27 Gorff 2017

Mêl Yr Ardd Wenyn

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Gardd Wenyn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

 

Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig iawn i wirfoddolwyr Gardd Gwenyn yr Ardd Fotaneg.

 

Ar ôl gaeafu’n holl Wenyn Mêl yn llwyddiannus, mae’r trefedigaethau wedi tyfu’n dda dros y gwanwyn, rydym nawr allan o’r tymor heidio ac mae’r gwenyn yn brysur yn dod â chymaint o borthiant ag y gallant.

 

Mae hyn wedi ein rhoi mewn sefyllfa ffodus bod angen i ni dynnu mêl o’r dil mêl i roi mwy o le i’r gwenyn parhau i chwilota a chasglu.

 

Yn ystod arolygiad o’r gwenyn yr wythnos hon, fe wnaethom gymryd y fframiau cyntaf o fêl wedi’i selio i’w echdynnu.

 

Roedd y gwirfoddolwyr, Ele, Sonia a Julian, wrth law i dynnu’r cap oddi wrth fframiau, a’u rhoi yn yr echdynnwr rheiddiol a’i throi gyda’u holl nerth i echdynnu’r hylif euraidd hyn.

 

Roedd yr arogl yn hyfryd ac oedd blas yn nefol.

 

Dyma ni’n gobeithio bod y tymor da hwn yn parhau er mwyn i ni allu cynhyrchu llawer mwy o fêl yn y dyfodol, fel bod digon o stoc i’r gwenyn dros y gaeaf ac, o bosib, peth i’w gwerthu!

 

Cadwch lygad allan!