16 Mai 2017

Diwrnod Diddordeb Mewn Planhigion 6: Arisaema

Bruce Langridge

Mae’r teulu o blanhigion hynod o ddiddorol yma’n un o drysorau cudd yr Ardd.

Mae eu blodau wedi’u trefnu ar bigyn hir a elwir yn ‘spadix’ sy’n ymddangos o ‘spathe’, gwain sy’n debyg i ddeilen.  Mae’r nodweddion hyn yn arwain at ei enw cyffredin  ‘jack-yn-y-pulpud’ ac entendre-dwbl, sy’n adlewyrchu’r gallu unigryw sydd gan yr arisaema i newid rhyw.

Mae’r rhan fwyaf o’r arisaemas yn tarddu o Dsieina a Siapan, ond mae ein casgliad yn tarddu o’n garddwr Martin Knowles.  Am flynyddoedd, mae wedi bod yn gweithio’n galed i dyfu’r rhywogaethau o dan y coed magnolia ger canol yr Ardd Ddeu-fur.  Yma, gallant weithiau dynnu sylw gydag arogleuon budr neu felys i ddenu pryfed sy’n peillio.  Ond, edrychwch yn ofalus a byddwch yn gweld planhigion rhyfeddol sy’n gysylltiedig â rhai o’r planhigion blodeuol cyntaf ar y ddaear.

Dyma un o 7 o blanhigion diddorol a fydd yn cael eu cynnwys ar y daith tywys fel rhan o Ddiwrnod o Ddiddordeb Mewn Planhigion, ar Fai 18.  Dan arweiniad Bruce Langridge a’r curadur Will Ritchie, bydd y daith gerdded yn cychwyn o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr am 2yp.