13 Mai 2017

Diwrnod Diddordeb Mewn Planhigion 4: Tormaen Iwerddon

Bruce Langridge

Mae stori hynod ddiddorol am sut y daeth y planhigyn hwn i fod yn ein casgliad Diogelu Planhigion Cymru

Yn 1962 darganfu’r botanegwr Dick Roberts flaguryn bychan yng Nghwm Idwal.

Anfonodd y blaguryn at Ardd Fotaneg Ness a chadarnhawyd mai tormaen Iwerddon  Saxifraga rosacea subsp. rosacea oedd y planhigyn. Ni welwyd y rhywogaeth hon o blanhigyn yn unman yn Eryri na chynt na wedi hynny.

Yn ffodus llwyddodd botanegwr arall, Morris Morris, i dyfu toriadau o’r blaguryn hwn a’i rhoi i’r Ardd.

Rydym bellach wedi cymryd darnau DNA oddi wrtho ac wedi darganfod ei fod yn wahanol i’r Tormaen Crymddail eraill sy’n tyfu’n gwyllt yn Iwerddon.  Gallai hyn dangos bod Tormeini Crymddail ‘Cymreig’ wedi goroesi trwy’r Oes Iâ diwethaf dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dyma un o 7 o blanhigion diddorol a fydd yn cael eu cynnwys ar y daith tywys fel rhan o Ddiwrnod o Ddiddordeb Mewn Planhigion, ar Fai 18.  Dan arweiniad Bruce Langridge a’r curadur Will Ritchie, bydd y daith gerdded yn cychwyn o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr am 2yp.