11 Mai 2017

Diwrnod Diddordeb mewn Planhigion 2: Echium pininana

Bruce Langridge

Yn dros 4m o daldra, mae’r cawr hon o fyd y planhigion yn dod yn ffefryn i arddwyr ym Mhrydain.

Bydd teithwyr o Brydain, sydd am gael ychydig o haul y gaeaf, efallai yn dod ar draws echiums mawr fel hyn yn ei Ynysoedd Dedwydd cynhenid.  Yna, mae’n ffynnu ar y llethrau folcanig gwyllt yn ogystal â gerddi preifat a chyhoeddus.  Mae peillwyr wrth eu bodd hefyd, gan ddechrau o’r gwaelod lle mae ei flodau yn ymddangos yn gyntaf.

Yn cael ei adnabod fel y gwiberlys mawr, gallwch ddod o hyd i’r planhigyn hyn yn ardal Ynysoedd Dedwydd y Tŷ Gwydr Mawr, ond gallwch chi dyfu hyn gartref.  O bosib oherwydd y newid yn yr hinsawdd, mae’r planhigyn eilflwydd hwn yn dod yn fwy gwydn i aeafau Prydain.

Os ddewch chi i’r daith Diddordeb mewn Planhigion ar 18fed o Fai, cewch glywed sut i dyfu’r rhyfeddod naturiol hwn.

Dyma un o 7 o blanhigion diddorol a fydd yn cael eu cynnwys ar y daith tywys fel rhan o Ddiwrnod o Ddiddordeb Mewn Planhigion, ar Fai 18.  Dan arweiniad Bruce Langridge a’r curadur Will Ritchie, bydd y daith gerdded yn cychwyn o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr am 2yp.