11 Mai 2017

Diwrnod Diddordeb Mewn Planhigion 1: Puya

Bruce Langridge

Mae’r planhigyn hwn yn gallu lladd

Mae’n tyfu ar lethrau’r Andes yn Ne America lle mae lamaod ac anifeiliaid gwlanog eraill yn cael eu dal ar ei phigau miniog, ac yna’n llwgu i farwolaeth.

Pan fydd yr anifail wedi pydru, mae’r planhigyn yn amsugno maetholion yr anifail, fel gwrtaith.

Un o’r mathau mwyaf o Bromeliad ar y Ddaear, mae’r puya yn cynhyrchu pigau blodau a all fod yn 3-4 metr o uchder.  Cymerodd y puyas yn y Tŷ Gwydr Mawr (Puya chilensis a P.berteroniana) deng mlynedd o dwf i gynhyrchu eu blodau cyntaf, ac eleni rydym yn edrych ymlaen at gael Puya alpestris sydd ar fin blodeuo yn ein Gardd Glogfeini awyr agored.

Dyma un o 7 o blanhigion diddorol a fydd yn cael eu cynnwys ar y daith tywys fel rhan o Ddiwrnod o Ddiddordeb Mewn Planhigion, ar Fai 18.  Dan arweiniad Bruce Langridge a’r curadur Will Ritchie, bydd y daith gerdded yn cychwyn o Fynedfa’r Gorllewin y Tŷ Gwydr Mawr am 2yp.