10 Ebr 2017

‘Bwmerang Botanegol’ – Tocyn Dychwelyd i’r Ardd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Mae ‘tocyn dychwelyd’ arbennig sy’n caniatáu mynediad yn rhad ac am ddim am wythnos ar gael eto yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Bydd unrhyw berson sy’n prynu tocyn pris llawn i’r Ardd rhwng nawr (Dydd Gwener, Ebrill 7fed) a diwedd mis Rhagfyr yn cael dychwelyd YN RHAD AC AM DDIM am saith diwrnod ar ôl yr ymweliad cyntaf – a chynifer o weithiau y byddan nhw eisiau!

 

Dywedodd y Pennaeth Marchnata, David Hardy: “Roedd y cynnig hwn yn boblogaidd iawn y blynyddoedd diwethaf.  Ry’n ni wedi cael llawer o adborth oddi wrth ymwelwyr oedd yn dweud na chawson nhw’r cyfle i weld popeth roedden nhw eisiau ei weld, ac yn wyneb ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau, mae digon o resymau ganddyn nhw i ddychwelyd.”

 

“Ry’n ni’n hoffi dweud wrth ein hymwelwyr ‘Nid yw diwrnod yn ddigon i weld y cyfan’, ond yn aml iawn, does dim digon o amser i ymwelwyr sydd ddim yn gyfarwydd â’r Ardd ac felly maent ar eu colled.  Mae hyn yn ffordd dda, felly, o sicrhau bod yna gyfle iddyn nhw ddychwelyd a gweld rhagor os ydyn nhw’n dymuno – a hynny’n rhad ac am ddim.”

 

Dyw’r cynnig ddim ar gael yn unig i ymwelwyr; mae’r ‘tocyn dychwelyd’ ar gael i bawb.   Ychwanegodd,  “Mae cymaint yn digwydd yma dros y gwanwyn a’r haf, ry’n ni’n siŵr y bydd y bobl leol eisiau cymryd mantais o’r cynnig hwn hefyd.”

 

Mae yna raglen ardderchog ymlaen eleni gan gynnwys hwyl i’r teulu, dawnsio, cerddoriaeth, hud, mîrgathod, hen bethau, tegeirianau, sorbio dŵr, y ddrysfa wellt a chrefftau – i enw rhai yn unig.  A chadwch lygad am atyniad newydd sbon yr Ardd: Y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig, a fydd ar agor yn ddyddiol gydag arddangosfeydd hedfan a phrofiadau anhygoel BOB dydd.

 

* Mae’r cynnig ‘Tocyn Dychwelyd’ yn gymwys ar gyfer bob tocyn mynediad pris llawn sy’n cael ei brynu rhwng Ebrill 7fed a Rhagfyr 23ain, 2017.

 

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.