31 Maw 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mawrth 31

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Oriau Agor yr Haf

Byddwn yn gweld yr Ardd yn newid i’w hamseroedd agor yr haf o Ebrill y 1af ymlaen, sef 10yb hyd at 6yp, gyda’r mynediad diwethaf am 5yp. Mwy o amser i fwynhau’r lle arbennig hon!

Adwaith

Hefyd ar y Dydd Sadwrn hwn, fydd y Tŷ Gwydr Mawr yn leoliad i berfformiad arbennig gan fand sy’n gwneud tipyn o argraff ar hyn o bryd.  Bydd Adwaith yn chwarae caneuon Cymraeg gwreiddiol yn y Tŷ Gwydr Mawr o 1-3yp.

 

Tocyn Dychwelyd yr Ardd

MAE’N TOCYN DYCHWELYD YMA ETO!

Mae ein ‘tocyn dychwelyd’ arbennig sy’n caniatáu mynediad am ddim am wythnos, yn ôl y flwyddyn hon, mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Pasg!

Felly, bydd unrhyw un sy’n prynu tocyn i’r Ardd nawr hyd at Ragfyr 31ain 2017 yn cael ei ganiatáu i ddod nôl i’r Ardd AM DDIM am saith diwrnod ar ôl eu hymweliad – a gymaint o weithiau ag y dymunwch!

 

10k Tenovus

Ydych chi wedi dechrau rhedeg fel rhan o’ch addunedau Blwyddyn Newydd?  Hoffech chi gymryd rhan yn ras 10k eleni?
Mae ras 10k Gofal Canser Tenovus nawr yn ei 5ed mlynedd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Gyda llethrau cyson a thir cymysg, does dim amheuaeth taw dyma un o’r rasys 10k mwyaf prydferth a braf yng Nghymru.
Os hoffech chi redeg gyda’ch cydweithwyr neu gystadlu busnes arall, mae gan Tenovus categori Sialens Gorfforedig, gyda ffurflenni cofrestru o dimau o 4 i 6 rhedwr.
I’r rheini sydd ddim yn barod am 10k, mae’r ras 5k poblogaidd nawr yn ei ail flwyddyn!  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru gwelwch wefan Tenovus yma, neu cysylltwch â events@tenovuscancercare.org.uk
Wrth i fynediad costi ond £12, bydd yn ffordd wych i gael y gwaed i bwmpio ac i weld un o atyniadau gorau Cymru.  Bydd y ras yn dechrau am 11yb, gyda chofrestru ar gael o 8yb.
Dewch i wylio!

Caiff cefnogwyr a gwylwyr mynediad am hanner bris i’r Ardd Fotaneg, a fydd yn rhoi diwrnod allan hwylus i bawb sydd yn eich cefnogi!

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.

Peidiwch ag anghofio, mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci trwy gydol y flwyddyn!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.

 

Mercher Mwdlyd

Bydd Mercher Mwdlyd yr wythnos hon y diwethaf am gwpl o wythnosau, wrth i wyliau’r Pasg ddechrau ar Ebrill 8fed.

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150