Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Penwythnos i Chi a’r Ci
Y penwythnos hwn, Mawrth 11eg & 12fed, gall ymwelwyr i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol dod a’u cŵn gyda nhw am ymweliad. Gwnewch ddiwrnod ohoni a dewch â’ch ffrind gorau am ymweliad i fwynhau 598 o erwau’r Ardd.
Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer dod â’u cŵn gyda nhw i’r Ardd.
A pheidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd, felly gallwch chi dod â’ch ci am ymweliad ar y 13eg, 20fed a 27ain o Fis Mawrth!
Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma. Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.
Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.
Mis o Gerddoriaeth
Mae yna Fis o Gerddoriaeth ym mis Mawrth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
BOB penwythnos ym mis Mawrth bydd y Tŷ Gwydr Mawr yn atseinio gyda cherddoriaeth o bob math, yn cynnwys corau, bandiau a pherfformwyr o fri.
Perfformwyr y penwythnos hwn bydd:
11yb – 12:30yp – Iwcalilis Caerfyrddin
12:30yp – 2yp – Platform One
2yp – 3:30yp – Band Mawr Steve Price
11yb – 12:30yp – Caroline Harrison
12:30yp – 2yp – Goodness Gracious Glee
2yp – 3:30yp – Tristan John
Mercher Mwdlyd
Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!
Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.
Digwyddiadau’r Ardd
Mae pamffled digwyddiadau newydd gwanwyn 2017 wedi cyrraedd, ac mae’n llond dop o ddigwyddiadau, hwyl i’r teulu, cerddoriaeth a gweithgareddau o nawr hyd at ddiwedd mis Mehefin.
Casglwch un ar eich ymweliad nesaf, neu gwelwch yma am fersiwn ar-lein er mwyn i chi beidio â cholli dim!
Siop Lyfrau Ail-Law’r Ardd
Mae Siop Lyfrau’r Ardd yn parhau i ffynnu ac rydym yn werthfawrogol iawn o’r rhoddion o lyfrau dros y misoedd diweddar, gan ein haelodau a gwirfoddolwyr cefnogol.
Rydym yn croesawu llyfrau o ansawdd da, clawr papur a llyfrau modern mewn cyflwr da ar amrywiaeth o bynciau. Mae llyfrau yn yr iaith Gymraeg yn gwerthu’n dda ac mae yna alw amdanynt.
Mae’r Siop Lyfrau wedi’i leoli’n agos i brif fynedfa’r Ardd ac nid oes yna dâl mynediad iddi, mae’r holl elw o’r Siop Lyfrau yn mynd tuag at brosiectau trwy gydol yr Ardd.