Wedi fy annog gan ymholiad o newyddiadurwr o’r Daily Telegraph am arddangosfeydd tymor y gaeaf yr Ardd, rwyf newydd fynd o gwmpas y Tŷ Gwydr Mawr i weld beth sy’n blodeuo.
Fel arfer, pan edrychai’n agos o gwmpas yr Ardd, rwy’n darganfod bod llawer mwy i’w weld nag oeddwn wedi meddwl yn flaenorol.
Gyda thua 1,000 o flodau o Dde Affrica, Awstralia, Chile, Califfornia a’r Basn Canoldirol, mae dros 100 yn blodeuo’n barod yng nghanol mis Ionawr, sydd fod i ‘ffrwydro’ wrth i ni fynd at y gwanwyn, y tymor mwyaf blodeuog yn y Tŷ Gwydr Mawr.
Fe wnes i hefyd sgwrsio â James Kettle, garddwr yn y Tŷ Gwydr Mawr, sy’n adnabyddus o ganlyniad i’w taldra a’i fod yn wastad yn gwisgo trowsus byr, hyd yn oed yn yr oerfel. Mae James yn ffynnon o wybodaeth ac mae wedi sylwi ffenomen dros y blynyddoedd diwethaf:
“Efallai taw o ganlyniad o’r gaeafau mwyn diweddar ond rwyf wedi sylwi bod nifer o flodau’r Tŷ Gwydr Mawr yn blodeuo’n gynharach nag arfer. Mae echium yr Ynysoedd Dedwydd, y Basn Canoldirol, Lithodora rosmarinifolia a phlanhigion erica ac aloe o Dde Affrica yn blodeuo’n gynnar eleni hefyd, yn ogystal â’r Nylandtria spinose. Mae’r Protea cynaroides hefyd yn cynhyrchu mwy o flagur nag arfer.”
A yw hyn yn arwydd o newid hinsoddol rhyngwladol ym mhlanhigion De Affrica ar draws Cymru yn y gaeaf? Pwy a wyr? Un peth sy’n sicr yw bod planhigion y Tŷ Gwydr Mawr i weld yn well ac yn fwy ffres nag ydynt wedi dros y blynyddoedd diwethaf. Mae James a’i uwch garddwr Marilla Burgess wedi bod yn gweithio’n galed i adfywio’r pridd dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Mae James yn egluro:
“Yn y gwyllt, mae’r planhigion yma braidd yn byw’n fwy na 10-20 mlynedd wrth i’w cynefinoedd brodorol losgi’n aml fel rhan o’u cylch ecolegol. Mae gan y rhan fwyaf o blanhigion yn hinsawdd y Canoldir addasiadau arbennig i’w helpu ymdopi â naill ai’r tymheredd uchel, hafau sych neu i adnewyddu yn dilyn tanau llwyni chwilboeth, fel y rhai rydym newydd weld ar y newyddion yng nghanol Chile. Nid oes gennym y dewis o osod ein harddangosfeydd ar dân ac, wrth i ni fod ar agor o fis Mai 2000, bu’n rhaid i ni gloddio allan hen blanhigion ac ail-gyflwyno rhai newydd.”
Mae’r plannu newydd ac adnewyddiad y gaeaf wedi helpu tuag at fywiogi’r Tŷ Gwydr Mawr ar gyfer 2017.
Mewn ychydig wythnosau, bydd y gwanwyn wedi cyrraedd: gyda’r arogl o’r goeden legymaidd Teline stenopetala, yn cyrraedd pob ardal o’r Tŷ Gwydr Mawr trwy gydol misoedd Chwefror a Mawrth.